Dilema'r carcharorionEnghraifft o gêm fathemategol yw Dilema'r Carcharorion a astudir yn namcaniaeth gemau. Mae'n enghraifft safonol sy'n dangos neu'n esbonio pam gall dau unigolyn rhesymegol peidio â chydweithio, er taw'r peth gorau i'r ddau unigolyn ei wneud bydd i gydweithio. Gosodwyd yn wreiddiol gan Merrill Flood a Melvin Dresher wrth weithio i RAND yn 1950. Yna cafodd ei ffurfioli gan Albert W. Tucker gyda'r gosodiad carcharorion, a'i ail-enwi'r "dilema carcharorion" (prisoner's dilemma).[1] Cyflwynwyd fel y ganlyn:
Yn y sefyllfa hon does dim modd i'r carcharorion cosbi'i gilydd, heblaw am y blynyddoedd yn y carchar a osodir gan y dilema ei hun. Gan fod bradychu eich partner trwy'r amser yn arwain tuag at lai o gosb na chydweithio, bydd unrhyw unigolyn rhesymegol hunanol trwy'r amser yn dewis i fradychu.[2] Y peth diddorol am hyn yw, os yw'r ddau unigolyn yn ymddwyn yn rhesymegol hunanol, yna bydd y ddau yn bradychu ei gilydd, sy'n arwain at gosb fwy na os bydd y ddau unigolyn yn cadw'n dawel. Y gêmGellir cyffredinoli Dilema'r Carcharorion o'i osodiad gwreiddiol. Tybiwch fod dau chwaraewr wedi'u cynrychioli gan y lliwiau coch a glas, a gall pob un chwaraewr dewis i naill ai "Cydweithio" neu "Bradychu". Os yw'r ddau chwaraewr yn cydweithio, maent yn ennill gwobr R. Os yw'r ddau chwaraewr yn bradychu ei gilydd, maent yn derbyn gwobr cosb P. Os yw'r chwaraewr glas yn bradychu tra bod y chwaraewr coch yn cydweithio, yna mae'r chwaraewr glas yn derbyn gwobr temtasiwn T, tra bod y chwaraewr coch yn derbyn gwobr "sucker" S. Yn debyg, yn y sefyllfa wrthwyneb, os yw'r chwaraewr glas yn cydweithio tra bod y chwaraewr coch yn bradychu, mae'r chwaraewr glas yn derbyn gwobr S tra bod y chwaraewr coch yn derbyn gwobr T. Gellir mynegi'r gêm yn y ffurf normal:
Er mwyn i hwn fod yn Dilema'r Carcharorion, mae angen i T > R > P > S. Enghreifftiau bywyd go iawnMae nifer o enghreifftiau bywyd go iawn sy'n cyfateb i Dilema'r Carcharorion:
Dilema ailadroddol y carcharorionOs chwaraeir Dilema'r Carcharorion tro ar ôl tro, mae'r chwaraewyr yn cofio hanes y gêm, ac yn newid ei strategaeth o ganlyniad. Gelwir hwn yn Dilema Ailadroddol y Carcharorion (Iterated Prisoner's Dilemma) neu IPD. Yn ogystal â'r ffurf gyffredinol uchod, mae angen i'r fersiwn ailadroddol cael 2R > T + S, er mwyn rhwystro'r strategaeth o amnewid rhwng cydweithio a bradychu pob yn ail rhoi wobr fwy na chydweithio cilyddol. Mae dilema ailadroddol y carcharorion yn sylfaenol i nifer o ddamcaniaethau am gydweithio dynol ac ymddiriedaeth. Wrth dybio bod y gêm yn gallu modelu trafodaethau rhwng dau berson sydd angen ymddiriedaeth, gallwn fodelu ymddygiad cydweithiol mewn poblogaethau trwy fersiwn aml-chwaraewr, ailadroddol o'r gêm. Felly mae wedi dal sylw nifer o ysgolheigion dros y blynyddoedd. Yn 1975 amcangyfrifodd Grofman a Pool bod mwy na 2,000 o erthyglau academaidd wedi ei astudio. Gelwir yr IPD hefyd y "gêm Heddwch-Rhyfel".[7] Astudir fersiwn cyfrifiadurol o dwrnameintiau'r dilema ailadroddol yn aml.[8] Bydd ymchwilwyr yn chwarae strategaethau yn erbyn ei gilydd megis 'Cydweithiwr' sy'n cydweithio pob tro, 'Bradychwr' sy'n bradychu pob tro, 'Tit-for-Tat' sy'n newid pob yn ail, a 'Grudger' sy'n dechrau wrth gydweithio nes i'w wrthwynebydd bradychu, yna bydd yn bradychu pob to. Mae fersiwn esblygol o'r twrnamaint yn gallu esbonio ymddangosiad allgarwch a chydweithredu ynghylch bodau byw mewn natur. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia