Dic Jones
Bardd Cymraeg nodedig a ffermwr o Geredigion oedd Dic Jones (30 Mawrth 1934[1] – 18 Awst 2009[2]). Roedd nid yn unig yn fardd dwys, athronyddol ("Ei dawn i wylo yw gwerth dynoliaeth") ond roedd ganddo hefyd hiwmor arbennig ac iach, ac roedd ei englynion digri ymhlith goreuon ein llenyddiaeth. Oherwydd y ddwy ochr hyn, gallwn ddweud fod y Prifardd Dic Jones yn fardd crwn, cyflawn a'i draed yn soled yn y pridd. Roedd hefyd yn agos at ei filltir sgwâr ond yn fardd cenedlaethol hefyd. Cyfrannodd golofn i'r cylchgrawn Golwg am dros ddeunaw mlynedd, gyda cherdd wythnosol am faterion y dydd. BywgraffiadGanwyd Richard Lewis Jones yn Nhre'r-ddôl yng ngogledd Ceredigion, a threuliodd ran helaeth o'i oes yng ngodre Ceredigion, yn ffermio'r Hendre, Blaenannerch, 5 milltir i'r gogledd o Aberteifi.[2] Dysgodd ei grefft fel bardd gwlad gan Alun Cilie.[1] Daeth Dic Jones yn adnabyddus y tro cyntaf pan enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd bum gwaith yn olynol yn ystod yr 1950au. Yn wahanol i nifer sy'n ennill cadair Eisteddfod yr Urdd, ni ddiflannodd Jones o'r golwg; yn hytrach cyhoeddodd ei gyfrol cyntaf, "Agor Grwn" ym 1960.[1] Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1966 yn Aberafan gyda'i awdl Cynhaeaf. Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1976, ym mlwyddyn wythcanmlwyddiant yr Eisteddfod, dyfarnodd y beirniaid mai awdl Dic Jones, a oedd wedi ei hysgrifennu dan ffugenw fel sy'n arferol, ar y testun "Gwanwyn" oedd yr orau. Ond gan fod Jones yn aelod o'r Panel Llenyddiaeth, ac felly yn gwybod beth fyddai'r pynciau ymlaen llaw, cafodd ei ddiarddel ar y funud olaf ac nis cadeiriwyd. Cadeiriwyd yr ail orau yn y gystadleuaeth, sef y Prifardd Alan Llwyd a oedd yn anfodlon. Cyhoeddwyd awdlau'r ddau fardd yn y Cyfansoddiau. Cyhoeddodd hanes ei fywyd hyd 1973 yn ei gyfrol Os Hoffech Wybod ym 1989.[1] Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007, cyhoeddwyd y byddai Dic Jones (Dic yr Hendre) yn olynu Selwyn Iolen fel Archdderwydd Cymru y flwyddyn ddilynol. Oherwydd ei salwch, dim ond mewn un eisteddfod y cafodd weinyddu.[3] Bu farw ei ferch Esyllt, plentyn Syndrom Down, yn ddim ond tri mis oed.[1] Roedd yn dad i'r cerddor a chyflwynydd Brychan Llŷr, yr actores a'r gantores Delyth Wyn.[4] Bu farw Dic Jones, yn 75 mlwydd oed, ar 18 Awst 2009 yn ei gartref ym Mlaenannerch, Ceredigion. Goroeswyd ef gan ei dri mab, dwy ferch a'i wraig Siân.[1] Cynhaliwyd angladd breifat ddydd Sadwrn yng Nghapel Blaenannerch. Cynhaliwyd Oedfa Goffa yng Nghapel Tabernacl, Aberteifi ar ddydd Sadwrn, 5 Medi 2009 am 2 o'r gloch.[5] LlyfryddiaethCerddi
HunangofiantLlyfryddiaeth amdano
Ffynonellau
Dolen allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia