Dewi Emrys
Bardd o Dde-Orllewin Cymru oedd Dewi Emrys (David Emrys James; 28 Mai 1881 – 20 Medi 1952). Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith, ac yn sgil ei lwyddiant yn y gystadleuaeth newidiwyd rheolau'r Eisteddfod i atal beirdd rhag ennill y Gadair na'r Goron fwy na dwywaith.[1] Bywyd CynnarGaned David Emrys James yn Majorca House, Ceinewydd, Ceredigion ar 28 Mai 1881. Ei dad oedd y Parch Emrys James. Pan oedd Dewi yn wyth oed, symudodd y teulu i Rosycaerau, Sir Benfro, ac yno y treuliodd Dewi flynyddoedd ei ieuenctid cynnar. Aeth i'r ysgol ym Mhencaer ac Ysgol Ramadeg Jenkins Abergwaun cyn mynd fel prentis newyddiadurwr a chysodwr ar y County Echo yn y dre honno. Ar ôl marwolaeth ei dad, symudodd y teulu i Gaerfyrddin ac aeth Dewi i weithio ar y Carmarthen Journal. Yn 1903, fodd bynnag, aeth i Goleg Presbyteraidd a dilyn llwybr ei dad i'r weinidogaeth. Dewi'r PregethwrAr ôl cyfnod fel gweinidog yn Nowlais derbyniodd Dewi alwad gan Eglwys Saesneg Bwcle, Sir y Fflint, yn 1908 Yn yr un flwyddyn, priododd â Cissie Jenkins, merch o Gaerfyrddin. Ym Mwcle ganwyd dau fab i'r teulu, Alun a Gwyn. Yn 1911, symudodd y teulu i Bontypridd. Yno cyrhaeddodd Dewi ei binacl fel pregethwr, ac ennill enw iddo'i hun drwy Gymru fel pregethwr penigamp, ond yna hefyd dechreuodd y problemau ariannol a phersonol a fyddai'n ei ddilyn am weddill ei oes. Ar ôl i'r teulu symud i Llundain yn 1915 aeth y problemau yn drech na Dewi, a gadawodd ei deulu a'i eglwys yn 1917 gan ymuno â'r fyddin. Y Bardd a'r CrwydynAr ôl y Rhyfel Mawr, ceisiodd Dewi wneud bywoliaeth o'i newyddiaduriaeth drachefn. Er iddo werthu sawl darn i olygyddion Stryd y Fflyd, aeth pethau o chwith iddo, a threuliodd sawl noson dan y sêr ar lannau Tafwys. Cefnodd Cymry Llundain arno, y cyn-bregethwr a oedd erbyn hyn i'w weld yn canu y tu allan i'r eglwysi, a'i gap yn ei ddwylo. Yn 1926, fodd bynnag, daeth tro ar fyd i Dewi, pan enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe gyda chasgliad o gerddi Rhigymau'r Ffordd Fawr. Yn yr un Eisteddfod, enillodd ar gystadleuaeth Darn o Farddoniaeth mewn tafodiaith gyda'r gerdd a fyddai'n dod yn un o'i weithiau mwya adnabyddus, "Pwllderi". Yn sgil ei lwyddiant, daeth ei wraig i chwilio amdano yn Abertawe, gan fod Dewi heb dalu tuag at gynnal ei deulu ers blynyddoedd. Fel canlyniad bu rhaid i Ddewi roi'r arian a enillwyd yn yr Eisteddfod i Cissie, casglu mwy gan ei ffrindiau, a hyd yn oed rhoi ei goron newydd mewn pawn shop yn Abertawe.[2] Aeth Dewi Emrys ymlaen i ennill y Gadair yn y Genedlaethol bedair gwaith, yn Lerpwl, 1929 ("Dafydd ap Gwilym"), Llanelli, 1930 ("Y Galilead"), Bangor, 1943 ("Cymylau amser"), a Phen-y-bont ar Ogwr 1948, ("Yr alltud").[3] Aeth Dewi Emrys i fyw, gyda'i ferch Dwynwen, yn "Y Bwthyn", Talgarreg, Sir Aberteifi yn 1941 ac yn y fan honno y treuliodd weddill ei oes. Bu farw yn Aberystwyth ym mis Medi, 1952, a chafodd ei gladdu ym mynwent Capel Pisgah, ar bwys Talgarreg. Dywedodd ei gyfaill, y Prifardd T. Llew Jones am yr achlysur:
Llyfryddiaeth![]() Barddoniaeth
Eraill Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia