Deidre Brock
Gwleidydd o'r Alban yw Deidre Brock (ganwyd 23 Tachwedd 1961) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Ogledd Caeredin a Leith; mae'r etholaeth yn Ninas Caeredin. Mae Deidre'n cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin. Ganwyd Brock yng Ngorllewin Awstralia a magwyd hi yn Perth. Astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Curtin ac actio yn Academi Perfformio a Chelfyddyd, Awstralia. Cymerodd ran yn yr opera sebon boblogaidd Home and Away. Wedi gwyliau yn Awstralia yn 1996, penderfynodd symud i fyw yno. Etholiad 2015Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[1][2] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Deidre Brock 23742 o bleidleisiau, sef 40.9% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 31.3 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 5597 pleidlais. Gweler hefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia