De architectura
Traethawd ar bensaernïaeth gan y pensaer Rhufeinig Vitruvius yw De architectura. Fe'i hysgrifenwyd tua 30–20 CC a gysegrwyd i’w noddwr, yr ymerawdwr Augustus. Dyma'r unig draethawd ar bensaernïaeth sydd wedi goroesi o'r cynfyd. Ar ôl iddo ddod ar gael fel llyfr printiedig ar ddiwedd y 15g, cafodd y llyfr ddylanwad aruthrol ar benseiri’r Dadeni, ac mae'n parhau yn ffynonell bwysig o syniadau hyd heddiw. Mae'n cynnwys amrywiaeth o wybodaeth am adeiladau Groegaidd a Rhufeinig, yn ogystal â chyfarwyddiadau ar gyfer cynllunio a dylunio gwersylloedd milwrol, dinasoedd, a strwythurau mawr (traphontydd dŵr, adeiladau, baddonau, harbyrau) a bach (peiriannau, dyfeisiau mesur, offer). Rhennir De architectura yn ddeg llyfr:
Roedd angen i benseiri Rhufeinig feistroli sgiliau amrywiol o lawer o ddisgyblaethau. Ymdriniodd Vitruvius ag amrywiaeth eang o bynciau sy'n ymestyn y tu hwnt i'r hyn a ystyriwn yn awr yn bensaernïaeth. Mae'n trafod pynciau a all ymddangos yn amherthnasol nawr, gan gynnwys mathemateg, seryddiaeth, meteoroleg a meddygaeth. Fodd bynnag, roedd angen i bensaer Rhufeinig ystyried popeth yn ymwneud â bywyd corfforol a meddyliol dyn a'i amgylchoedd. Dylanwad![]() Er bod llawer o gopïau o De architectura yn bodoli fel llawysgrifau yn ystod yr Oesoedd Canol ymddengys na chawsant fawr o sylw, ond cafodd y llyfr ei "ailddarganfod" yn 1414 gan yr ysgolhaig clasurol Poggio Bracciolini, a ddaeth o hyd copi yn llyfrgell Abaty Sant Gall, yn y Swistir. Wedyn astudiwyd y llawysgrif yn eiddgar gan feddylwyr eraill y Dadeni a oedd â diddordeb mewn adfywio treftadaeth ddiwylliannol a gwyddonol yr henfyd. Cyhoeddwyd y fersiwn argraffedig gyntaf ym 1486, a'r fersiwn gyntaf a oedd yn cynnwys darluniau ym 1511. Wedi hynny cyhoeddwyd llawer o argraffiadau eraill, gan gynnwys cyfieithiadau i'r Eidaleg (1520au), Ffrangeg (1547), Almaeneg (1548), Sbaeneg (1582) a Saesneg (fersiwn talfyredig 1692; cyflawn 1771). Cafodd y llyfr ddylanwad dwfn ar benseiri'r Dadeni, gan ysgogi aileni pensaernïaeth Glasurol yn y canrifoedd dilynol. Roedd yn galluogi penseiri megis Niccolò de' Niccoli, Filippo Brunelleschi a Leon Battista Alberti i ddod ag agwedd wyddonol systematig at eu crefft. Mae un o luniadau mwyaf adnabyddus Leonardo da Vinci, Dyn Vitruvius, yn seiliedig ar egwyddorion cyfrannedd y corff a ddatblygwyd gan Vitruvius yn Llyfr III. Roedd y pensaer Seisnig Inigo Jones a’r Ffrancwr Salomon de Caus ymhlith y cyntaf i ail-werthuso a gweithredu’r disgyblaethau hynny yr oedd Vitruvius yn eu hystyried yn elfen angenrheidiol o bensaernïaeth: y celfyddydau a’r gwyddorau yn seiliedig ar rif a chyfrannedd. Roedd y pensaer hynod ddylanwadol o'r 16g Andrea Palladio yn ystyried Vitruvius fel ei feistr a'i dywysydd. ![]() Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia