David Walliams
Digrifwr, awdur, cyflwynydd teledu a beirniad ar Britain's Got Talent ydy David Edward Walliams (ganed 20 Awst 1971). Fe'i ganwyd yn Merton, Llundain, Lloegr. Priododd y model Lara Stone yn 2010 ond fe ysgarwyd y cwpl yn 2015, mae ganddynt un plentyn o'r enw Alfred Walliams. Mae ef fwyaf adnabyddus am ei waith gyda Matt Lucas. Graddiodd o Brifysgol Bryste gyda BA mewn Drama ym 1992. Ers 2012 mae Walliams wedi bod yn feirniad ar sioe dalent ITV Britain's Got Talent gydag Amanda Holden, Alesha Dixon a Simon Cowell. Yn 2015, 2018 a 2019, cafodd ei gydnabod yn y Gwobrau Teledu Cenedlaethol fel y Barnwr Gorau am ei ran yn y gyfres. Mae ei berthynas efo Simon Cowell wedi cael ei ganmol. Enillodd y Best TV Judge yn y 2015 National Television Awards. Enillodd y Pride Of Britain Award yn 2006 am Nofio'r Sianel a chodi £1 miliwn i'r elusen Sport Relief. Mae llyfrau David wedi ennill llawer o wobrau, yn enwedig y rhai y mae plant yn pleidleisio drostyn nhw. Enillodd y Specsavers Children Book Award am 'Ratburger'. Yn Rhagfyr 2013 enilloedd eto am Demon Dentist, ac eto yn 2014 am Awful Auntie. Roedd Awful Auntie hefyd wedi ennill 2014 Specsavers National Book Award am Lyfr Clywedol y Flwyddyn. Nofiodd David 140 milltir i lawr Afon Tafwys i godi arian ar gyfer Sports Relief. Bywyd personolRoedd yn briod â model o'r Iseldiroedd Lara Stone ond fe ysgarodd y cwpl yn 2015. LlyfryddiaethFfeithiol
Ffuglen i blant
Llyfrau CymraegTroswyd nifer o lyfrau nofelau i blant a llyfrau lluniau Walliams i'r Gymraeg.
Rhaglenni teledu
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia