David Davies, Barwn 1af Davies
Gwleidydd Rhyddfrydol a chymwynaswr cyhoeddus o Gymru oedd David Davies, Barwn 1af Davies (11 Mai 1880 – 16 Mehefin 1944). Roedd yn ŵyr i'r diwydiannwr David Davies, Llandinam. Cafodd y farwniaeth ei chreu ar ei gyfer ym 1932. Cafodd ei eni yn Llandinam, Sir Drefaldwyn, ac yno y bu farw. Ei dad, Edward Davies, oedd unig fab David Davies, Llandinam. Daeth ei ddwy chwaer, Gwendoline a Margaret, yn adnabyddus fel noddwyr y celfyddydau. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Castell Merchiston a Choleg y Brenin, Caergrawnt, gan raddio ym 1903.[1] Yn wleidyddol ac yn bersonol, bu David Davies yn dilyn yr arweiniad a osodwyd gan ei daid. Rhwng 1906 a 1929 roedd yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros etholaeth Sir Drefaldwyn. Ar ôl 1929 pan safodd i lawr fel AS i dderbyn sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, parhaodd i gefnogi'r Blaid Ryddfrydol swyddogol drwy gydol y tridegau. Daeth yn Llywydd Cymdeithas Ryddfrydol Sir Drefaldwyn ond bu peth anghydfod rhyngddo â'i olynydd fel AS, Clement Davies. Ym 1931 ymunodd Clement Davies â'r Rhyddfrydwyr Cenedlaethol a pharhau i gefnogi'r Llywodraeth Genedlaethol ar ôl i'r Blaid Ryddfrydol swyddogol droi'n wrthblaid ym 1933. Ym 1938, gydag etholiad cyffredinol yn debygol o ddigwydd yn y dyfodol agos, rhoddodd yr Arglwydd Davies bwysau ar Clement Davies drwy berswadio Cymdeithas Ryddfrydol Sir Drefaldwyn i geisio eglurhad gan eu haelod seneddol ar ei farn ynghylch y Llywodraeth Genedlaethol a'i pholisi o ddyhuddiad o safbwynt yr Almaen. O dan y fath bwysau penderfynodd Clement Davies ymwrthod â chwip y Rhyddfrydwyr Cenedlaethol a gwrthwynebu dyhuddiad.[2] Roedd yn sylfaenydd a noddwr y cylchgrawn Gymreig dros hawliau cenedlaethol a diwygidio cymdeithasol, Welsh Outlook. Roedd yn gefnogwr brwd o waith Cynghrair y Cenhedloedd. Ym 1932 sefydlodd Gymdeithas y Gymanwlad Newydd er mwyn 'hyrwyddo cyfraith a threfn ryngwladol', gan ysgrifennu nifer o lyfrau ar y defnydd cywir o rym; y mwyaf nodedig oedd The Problem of the Twentieth Century (1930), a gafodd ei gyfieithu i'r Almaeneg a nifer o ieithoedd eraill. Cafodd ei syniadau effaith ar gynnwys Siarter y Cenhedloedd Unedig, yn enwedig mewn perthynas â sancsiynau a'r newid o fyddinoedd cenedlaethol i heddlu rhyngwladol. Ef oedd noddwr Cadair Prifysgol gyntaf y byd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol, a sefydlwyd ym 1919 i anrhydeddu Woodrow Wilson, a hynny yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth,[3] sydd hefyd bellach yn gartref i Sefydliad Coffa David Davies mewn Astudiaethau Rhyngwladol. Bu'n un o sylfaenwyr Ffederasiwn Clybiau Bechgyn De Cymru (The South Wales Federation of Boys’ Clubs) yn 1922 a adewinir bellach fel Clybiau Bechgyn a Merched Cymru gyda'r Capten John Glynn-Jones. Sefydlwyd y gymdeithas yn swyddogol yn 1928. Mae ei archif, sydd yn cynnwys cofnodion Gymdeithas y Gymanwlad Newydd a Chymdeithas Coffa Brenin Edward VII Cenedlaethol Cymru, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r archif yn cynnwys cofiant iddo sydd wedi cael ei ddigido. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia