Daines Barrington
Roedd Daines Barrington (1728 - 14 Mawrth 1800) yn farnwr, hynafiaethydd, a naturiaethwr o Loegr. Gwasanaethodd fel barnwr rhai o lysoedd gogledd Cymru ac roedd ei ddiddordeb fel hynafiaethydd yn cynnwys astudiaethau o hynafiaethau Cymreig.[1] CefndirGanwyd Barrington ym mhlwyf Shrivenham, Berkshire, yn pedwerydd o naw o blant John Shute Barrington, Is-iarll cyntaf Barrington, bargyfreithiwr a gwleidydd, a'i wraig, Anne merch Syr William Daines o Fryste. Aeth i Goleg y Frenhines, Rhydychen ym 1745 ond ni dderbyniodd radd. Aeth i'r Deml Fewnol yn yr un flwyddyn gan gael ei alw i'r bar ym 1750.[2] Gyrfa gyfreithiolAr ôl cymhwyso fel bargyfreithiwr teithiodd Barrington am gyfnod byr ar gylchdaith Rhydychen. Ym 1751 penodwyd ef yn farsial uchel lys y Morlys, swydd yr ymddiswyddodd ohoni ym 1753 pan benodwyd ef yn ysgrifennydd Ysbyty Greenwich. Daeth yn farnwr sesiynau mawr siroedd Meirionnydd, Caernarfon, a Môn ym 1757, a chofiadur Bryste ym 1764 ac ail ynad Caer ym 1778. Yn rhinwedd ei swydd eisteddodd gyda Lloyd Kenyon i glywed y cais gohirio yn achos William Davies Shipley, Deon Llanelwy, ym 1783. Ym 1785 ymddiswyddodd Barrington ei holl swyddi ac eithrio'r un mwyaf gwerthfawr, sef comisiwn cyffredinol y storfeydd yn Gibraltar a dalodd dros £ 500 y flwyddyn iddo hyd ei farwolaeth. Cyhoeddodd Barrington astudiaeth hanesyddol o'r gyfraith ym 1766, Observations on the Statutes, Chiefly the More Ancient. Cafodd y llyfr croeso brwd gan a hynafiaethwyr cyfansoddiadol, a chafodd ei hadargraffu pum gwaith hyd 1796. Ysgrifau hynafiaethol a gwyddonolYm 1773 cyhoeddodd Barrington rifyn o Orosius, gyda fersiwn Sacsonaidd y Brenin Alffred, a chyfieithiad Saesneg gyda nodiadau. Ysgrifennodd ei Tracts on the Probability of reaching the North Pole (1775) o ganlyniad i'r fordaith ogleddol o ddarganfyddiad a wnaed gan y Capten Constantine John Phipps, yr Arglwydd Mulgrave. Mae ysgrifau eraill Barrington i'w cael yn bennaf yng nghyhoeddiadau'r Gymdeithas Frenhinol a Chymdeithas yr Hynafiaethwyr: fe'i hetholwyd i'r ddau gorff ym 1767, ac wedi hynny daeth yn is-lywydd yr olaf. Ei gyhoeddiad gyntaf i drafodion Cymdeithas yr Hynafiaethwyr Archaeologia oedd ei bapur ar gestyll Cymru. Casglwyd llawer o'r papurau hyn ganddo mewn cyfrol gwarto o'r enw Miscellanies on various Subjects (1781).[3] Cyfrannodd at Drafodion Athronyddol y Gymdeithas Frenhinol ar gyfer 1770, hanes ymweliad Mozart yn naw mlwydd oed â Llundain.[4] Yn ei Miscellanies mae'n ail gyhoeddi ei astudiaeth o Mozart ar y cyd a chyfrifon am bedwar plentyn athrylithgar arall, sef William Crotch, Charles a Samuel Wesley, a Garret Wesley, Iarll 1af Mornington. Ymhlith ei weithiau mae astudiaethau ar Arbrofion ac Arsylwadau ar Ganu Adar a thraethawd ar iaith adar. Ceisiodd Barrington arbrofion traws faethu ar adar a nododd y gallai llinosiaid ifanc a megir gyda rhieni maeth gael eu cymell i ddysgu caneuon amryw o rywogaethau ehedydd.[5] Fodd bynnag, gwrthododd y syniad o fudo pellter hir mewn adar, a chefnogodd y syniad hynafol bod gwenoliaid yn mynd i gysgu o dan y dŵr yn ystod y gaeaf.[6] Cyfarfu Barrington â'r siaradwr Cernyweg Dolly Pentreath a chyhoeddodd erthygl am y cyfarfyddiad. Yr erthygl hon yw prif ffynhonnell yr honiad mai Dolly oedd siaradwr olaf yr iaith. Flwyddyn ar ôl i Dolly Pentreath farw ym 1777, derbyniodd Barrington lythyr, a ysgrifennwyd yng Nghernyweg ynghyd â chyfieithiad Saesneg, gan bysgotwr ym Mhorthenys o’r enw William Bodinar yn nodi ei fod yn gwybod am bump o siaradwyr Cernyweg yn y pentref hwnnw. Mae Barrington hefyd yn son am John Nancarrow o Marghasyow a oedd yn siaradwr brodorol ac a oroesodd i'r 1790au.[7] MarwolaethNi fu Barrington yn briod. Bu'n fyw am ran fwyaf ei oes yn ei siambrau yn King's Bench Walk yn y Deml Fewnol, Llundain. Cafodd ei barlys o'i goesau i fyny a bu farw ar ôl bod yn gaeth i'w wely am gyfnod hir yn 72 mlwydd oed. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd mewn claddgell yn Eglwys y Deml. Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol Cymru casgliad archifau am y person yma.[8] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia