Dafydd Huws (awdur)
Awdur o Gymro oedd Dafydd Huws (1949 – 15 Ebrill 2020), a ysgrifennodd o dan y ffugenw Goronwy Jones.[1] Bywyd cynnar ac addysgGanwyd yn Mangor a fe'i magwyd yn Llanberis ac aeth i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. GyrfaBu'n athro Cymraeg am 18 mlynedd yn Ysgol Uwchradd Illtyd Sant, Caerdydd cyn gadael y byd addysg am y BBC i sgriptio Pobol y Cwm. Dechreuodd ei yrfa lenyddol fel colofnydd radio a theledu Y Faner o dan yr enw Charles Huws (1971-1982). Ef yw awdur nofelau'r Dyn Dwad. Trwy lygad ei gymeriad Goronwy Jones, creodd Huws dair nofel ôl-fodernaidd a gwleidyddol. Dyddiadur Dyn Dŵad (1978), Un Peth 'Di Priodi, Peth Arall 'Di Byw (1990) a Walia Wigli (2004) a detholiad o storiau a darllediadau yn y gyfrol Chwarter Call (2005). Rhydd nofelau Huws olwg ddychanol a gwleidyddol ar Gymru'r 70au, yr 80au, y 90au a'r Gymru fodern. Addaswyd y nofel Dyddiadur Dyn Dŵad yn gyfres fer ar Radio Cymru yn 1986 ac yn ddiweddarach fel ffilm, gyda Llion Williams yn serennu yn y brif ran. Fe'i ddarlledwyd fel y ffilm Nadolig ar S4C yn 1989. Ef hefyd oedd awdur Ser y Dociau Newydd (1994) ac roedd yn parhau i sgriptio ar gyfer y teledu. Roedd Dafydd Huws yn weithgar gydag Undeb yr Ysgrifenwyr yng Nghymru. Yn ei flynyddoedd olaf, roedd wedi bod yn barddoni dipyn, a cyhoeddwyd rhai darnau yn enw Goronwy Jones yng nghylchgrawn Golwg ym mis Ebrill 2017.[1] Bywyd personolRoedd yn briod a June ac roeddent yn byw yng Ngwaelod-y-Garth ger Caerdydd. Mae ganddynt ddwy ferch, Esyllt a Catrin Dafydd. Bu farw yn hosbis Holme Towers ym Mhenarth. Gweithiau
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia