Dŵr daear
Y dŵr sy'n cael ei storio mewn pridd a chreigiau o dan y ddaear yw dŵr daear. Mae tua 30 y cant o'r holl ddŵr croyw yn y byd sydd ar gael yn hawdd yn ddŵr daear. Mae craig neu bridd y gellir tynnu dŵr ohono mewn swm defnyddiol yn cael ei galw yn ddyfrhaen. Yng Nghymru daw'r rhan fwyaf o'r cyflenwad dŵr cyhoeddus o gronfeydd dŵr neu o afonydd,[1] a dim ond tua 5% o'r cyflenwad hwnnw sy'n dod a dŵr daear, a hynny mewn ardaloedd gwledig, lle gall dŵr daear fod yr unig ffynhonnell ddŵr ymarferol ar gyfer eiddo anghysbell. Fodd bynnag, mewn llawer o ranbarthau'r byd (mewn ardaloedd eang yr Unol Daleithiau, er enghraifft) mae dŵr daear yn fwy cyfleus ac yn llai agored i lygredd na dŵr wyneb, ac fe'i defnyddir ar gyfer cyflenwadau dŵr cyhoeddus. Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia