Cytundeb Escazú
Term arall am 'Gytundeb Rhanbarthol ar Fynediad at Wybodaeth, Cyfranogiad Cyhoeddus a Mynediad at Gyfiawnder mewn Materion Amgylcheddol yn America Ladin a'r Caribî' yw Cytundeb Escazú, sy'n gytundeb rhyngwladol wedi'i lofnodi gan 24 gwlad yn America Ladin a'r Caribî. Mae'n ymwneud âphrotocolau ar gyfer amddiffyn yr amgylchedd ac fe'i harwyddwyd gan nifer o wledydd, gan gynnwys: Antigwa a Barbiwda, yr Ariannin, Bolifia, Ecwador, Guyana, Mecsico, Nicaragwa, Panama, Sant Kitts-Nevis, Saint Vincent a'r Grenadines, Saint Lucia ac Wrwgwái).[1][2] Dyma'r cytundeb cyntaf i ddarparu'n benodol ar gyfer amddiffynwyr hawliau dynol mewn materion amgylcheddol. Mae'r cytundeb yn tarddu o ganlyniad i Gynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Ddatblygu Cynaliadwy (Rio + 20), a gynhaliwyd yn 2012, a Phenderfyniad Santiago a fabwysiadwyd yn 2014 gan 24 gwlad. O'r eiliad honno ymlaen, cynhaliwyd proses drafod ymhlith y 24 gwlad â diddordeb, a gyd-gadeiriwyd gan ddirprwyaethau Chile a Costa Rica. Ar ôl pedair blynedd o drafodaethau, mabwysiadwyd y Cytundeb Rhanbarthol ar 4 Mawrth 2018 yn ninas Escazú yn Costa Rica.[3] Y cytundeb hwn oedd y cyntaf a wnaed gan y Comisiwn Economaidd ar gyfer America Ladin a'r Caribî (ECLAC), un o asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig.[4] Llofnodwyd y cytundeb o’r diwedd gan 14 gwlad ar 27 Medi 2018 yn fframwaith cyfarfod blynyddol Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, ac yn ddiweddarach gan 10 gwlad arall ac yn Ebrill 2021, roedd yn aros am gadarnhad briodol gan bob un o lofnodwyr y Wladwriaeth. Mae'r cytundeb rhanbarthol hwn yn cael ei ystyried yn un o'r offerynnau amgylcheddol pwysicaf yn yr ardal. Ei nod yw gwarantu y bydd hawliau mynediad at wybodaeth amgylcheddol yn cael ei weithredu'n llawn ac yn effeithiol yn America Ladin a'r Caribî, mae hefyd yn sicrhau fod y cyhoedd yn cyfrannu at y prosesau o wneud penderfyniadau yn yr amgylchedd amgylcheddol a mynediad at gyfiawnder yn y maes amgylcheddol, yn ogystal â chryfhau galluoedd a chydweithrediad, gan warantu amddiffyn hawl pob person, cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, i gael datblygiad cynaliadwy ac i fyw mewn amgylchedd iach.[5] Yn ystod y Datganiad, addawodd y gwledydd a'i llofnododd i symud ymlaen i gael deddfau rhanbarthol sy'n darparu hawliau mynediad at wybodaeth am yr amgylch. O ganlyniad, ar 4 Mawrth 2018, mabwysiadwyd Cytundeb Rhanbarthol ar Fynediad at Wybodaeth, Cyfranogiad Cyhoeddus a Mynediad at Gyfiawnder mewn Materion Amgylcheddol yn America a’r Caribî - Cytundeb Escazú, a fydd ar agor i’w lofnodi gan wledydd America Ladin a'r Caribî am gyfnod o ddwy (2) flynedd, o Fedi 27, 2018 i Fedi 26, 2020. Enw'r cytundeb yn yr iaith wreiddiol (Sbaeeg) yw Acuerdo Regional sobre Acceso a la Información, la Participación Pública y el Acceso a la Justicia en Asuntos Ambientales en América y el Caribe -Acuerdo de Escazú.[6] Proses a gwledydd![]() Parhaodd cam paratoadol y cytundeb ddwy flynedd. Dechreuodd ar 22 Mehefin 2012 yn ystod Cynhadledd Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig (Rio + 20) a daeth i ben gyda Phenderfyniad Santiago ar Dachwedd 10, 2014.[7] Dyma'r unig gytundeb rhwymol sy'n tarddu o Gynhadledd Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig (Rio + 20), y cytundeb amgylcheddol rhanbarthol cyntaf yn America Ladin a'r Caribî, a'r cyntaf yn y byd i ddarparu'n benodol ar gyfer amddiffynwyr hawliau dynol mewn materion amgylcheddol [5] NegodiAr ôl Penderfyniad Santiago, ffurfiwyd Bwrdd Cyfarwyddwyr gyda dwy wlad yn cyd-gadeirio a phump arall yn aelodau. Ffurfiwyd Pwyllgor Negodi lle cymerodd y Bwrdd Cyfarwyddwyr a chwe aelod o'r cyhoedd ran.[3] Roedd y Bwrdd Cyfarwyddwyr cyntaf yn cynnwys y saith gwlad ganlynol:[8]
Cymerodd cynrychiolwyr y cyhoedd, sefydliadau sifil ac arbenigwyr academaidd a oedd yn bresennol ran yn y trafodaethau.[8] Cymerodd 24 o 33 aelod-wlad y Comisiwn Economaidd ar gyfer America Ladin a’r Caribî (ECLAC) ran ym mhroses drafod olaf y cytundeb yn ninas Escazú yn Costa Rica, a ddaeth i ben gyda’i ddathliad ar 4 Mawrth 2018.[9] Gweler hefydCyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia