Cyrus Fawr
Cyrus Fawr, Perseg: کوروش بزرگ, Kurosh-e Buzurg neu کوروش کبیر Kurosh-e Kabeer (c. 600 CC neu 576 - Awst 530 CC neu 529 CC), hefyd Cyrus II, brenin Persia oedd sylfaenydd yr Ymerodraeth Achaemenaidd. Ceir nifer o hanesion gwahanol am ei fywyd cynnar. Yn ôl Herodotus, roedd yn ŵyr i Astyages, brenin Media, ond wedi ei fagu gan ffermwyr tlawd. Roedd o lwyth Persaidd y Pasargadae a thylwyth yr Achaemenidae. Cyn iddo uno'r Mediaid a'r Persiaid mewn un deyrnas, roedd yn frenin Anshān, teyrnas yn yr hyn sy'n awr yn dde Iran. Adeiladodd Cyrus ei brifddinas, Pasargadae, yn yr ardal yma. Bu'n frenin Persia am bron 30 mlynedd, ac adeiladodd ymerodraeth yn ymestyn o ffiniau yr Aifft hyd Afon Indus. Gorchfygodd Ymerodraeth y Mediaid, Ymerodraeth Newydd Babilon ac Ymerodraeth Lydia. Lladdwyd ef ar hyd y Syr Darya tra'n ymladd yn erbyn y Scythiaid. Olynwyd ef gan ei fab, Cambyses II.
|
Portal di Ensiklopedia Dunia