Cyniferydd![]() Mewn rhifyddeg, y cyniferydd (Saesneg: quotient) yw'r swm a gynhyrchir pan gaiff dau rif eu rhannu; ar lafar gwlad, defnyddir y gair "ateb". Defnyddiwyd y term am y tro cyntaf yng Ngeiriadur Saesneg-Cymraeg John Walters yn 1780.[1][2] Ond mae'r cysyniad yn llawer hŷn na hynny: quotiens yw'r gair Lladin (ynganiad: kwoʊʃənt), sy'n golygu "nifer o weithiau". Defnyddir cyniferedd yn aml o fewn mathemateg, ac weithiau cyfeirir at fel "ffracsiwn" neu "gymhareb". Er enghraifft, pan rennir ugain (sef y 'rhannyn') gyda thri (y 'rhannydd'), y cyniferydd yw chwech a dau draean. Yn yr ystyr hwn, y cyniferydd yw'r gymhareb rhwng y rhannyn a'i rannydd.
NodiantYn aml, gwelir y cynhwysydd fel dau rif, neu ddau newidyn, wedi'i rannu â llinell lorweddol. Mae'r geiriau "rhannyn" a "rhannydd" yn cyfeirio at y rhannau unigol, tra bod y gair "cyniferydd" yn cyfeirio at y cyfan.
Cyniferydd dau gyfanrifY diffiniad o rif cymarebol yw: y cyniferydd o ddau gyfanrif, cyn belled nad yw'r enwadur yn sero. Diffiniadau mwy ffurfiol:[3]
Yn fwy ffurfiol:
Darganfuwyd bodolaeth rhifau anghymarebol - rhifau nad ydynt yn gyniferydd o ddau gyfanrif - yn gyntaf mewn geometreg, mewn pethau megis y gymhareb o hyd groeslin sgwâr â hyd ei ochr. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia