Cyngres yr Unol Daleithiau
Deddfwriaeth dwy siambr llywodraeth ffederal Unol Daleithiau America ydy Cyngres yr Unol Daleithiau. Mae'n cynnwys dau dŷ sef y Senedd a Thŷ'r Cynrychiolwyr. Dewisir seneddwyr a chynrychiolwyr drwy etholiadau uniongyrchol. Cynrychiola pob un o'r 435 aelod o Dŷ'r Cynrychiolwyr ardal ac maent yn gwasanaethu am gyfnod o ddwy flynedd. Rhennir seddau'r tŷ ymysg y taleithiau yn ôl poblogaeth. Mae'r 100 o Seneddwyr yn gwasanaethu am gyfnodau o chwe mlynedd. Mae gan bob talaith ddau seneddwr, waeth beth fo poblogaeth y taleithiau. Bob dwy flynedd, etholir tua traean o'r Senedd ymhob etholiad. Rhydd Erthygl I o'r Cyfansoddiad bwerau deddfwriaethol i'r Gyngres. Mae'r Tŷ a'r Senedd yn bartneriaid cyfartal yn y broses deddfwriaethol (ni ellir gwireddu deddfwriaeth heb gytundeb rhwng y ddwy siambr); fodd bynnag, rhydd y Cyfansoddiad rai pwerau unigryw i bob siambr. Dim ond gan y Senedd y mae'r pŵer i gadarnhau cytundebau a chytuno i apwyntiadau arlywyddol. Rhaid i fesurau codi-cyllid ddeillio o Dŷ'r Cynrychiolwyr, sydd hefyd yn meddu ar y pŵer i ddwyn ag achos o uchelgyhuddo yn erbyn rhywun, tra bod gan y Senedd yn unig y pŵer i roi rhywun ar brawf mewn achos o uchelgyhuddo. Mae'r Gyngres yn cyfarfod yn Capitol yn Washington, D.C. Yn aml, defnyddir y term Cyngres i gyfeirio at gyfarfod penodol am ddeddfwriaeth cenedlaethol, yn unol a thermau'r cynrychiolwyr. O ganlyniad, mae "Cyngres" yn para am ddwy flynedd. Cyfarfu'r 111fed Gyngres presennol ar 6 Ionawr, 2009. Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
|
Portal di Ensiklopedia Dunia