Cyngor Cyntaf y Fatican
![]() Cyngor eglwysig gan yr Eglwys Gatholig Rufeinig oedd Cyngor Cyntaf y Fatican (Lladin: Concilium Vaticanum Primum) a gafodd ei alw ynghyd ar 29 Mehefin 1868 gan y Pab Piws IX, ar ôl cyfnod o gynllunio a pharatoi ers 6 Rhagfyr 1864.[1] Agorodd y cyngor ar 8 Rhagfyr 1869 a daeth i ben ar 20 Hydref 1870.[1] Hwn oedd ugeinfed cyngor yr Eglwys Gatholig,[2] y cyngor cyntaf ers Cyngor Trent (1545–63) tri chan mlynedd ynghynt, a'r unig gyngor eglwysig i'w gynnal ym Masilica Sant Pedr yn Ninas y Fatican nes Ail Gyngor y Fatican (1962–5). Cafodd y cyngor ei drefnu er mwyn ymdrin â'r problemau a dadleuon crefyddol o ganlyniad i ddylanwad rhesymoliaeth, rhyddfrydiaeth, a materoliaeth.[2] Yn ogystal, ei bwrpas oedd i ddiffinio'r athrawiaeth Catholig parthed Eglwys Crist.[3] Trafododd y cynulliad a chytunodd ar ddau gyfansoddiad: Cyfansoddiad Dogmataidd y Ffydd Gatholig, a Chyfansoddiad Dogmataidd Cyntaf Eglwys Crist, sy'n ymwneud â goruchafiaeth ac anffaeledigrwydd y Pab.[3] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia