Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r corff llywodraethu lleol ar gyfer Castell-nedd Port Talbot. Ers ei greu ym 1996 mae wedi cael ei reoli gan y Blaid Lafur. ArweinyddiaethAr 12 Mai 2017, daeth y Cynghorydd Robert Jones yn arweinydd y cyngor, gan gymryd yr awenau gan yr arweinydd blaenorol y Cynghorydd Ali Thomas.[2] Y dirprwy arweinydd yw'r Cynghorydd Ted Latham. Strwythur gwleidyddolCynhelir etholiadau bob pum mlynedd, gan ethol chwe deg pedwar o gynghorwyr. Cynhaliwyd yr etholiad diwethaf ar 4 Mai 2017.[3] Cyfansoddiad cyfredol
Canlyniadau hanesyddol
MaeriaethAr 17 Mai 2019, penodwyd y Cynghorydd Scott Jones yn faer Castell-nedd Port Talbot. Y dirprwy faer ar gyfer 2019-20 yw'r Cynghorydd John Warman. Wardiau etholiadol![]() Mae'r fwrdeistref sirol wedi'i rhannu'n 42 ward etholiadol sy'n dychwelyd cyfanswm o 64 o gynghorwyr. Mae rhai o'r wardiau hyn yn cyd-fynd â chymunedau (plwyfi) o'r un enw. Gall pob cymuned gael cyngor etholedig. Mae 19 o gynghorau cymunedol yn ardal y fwrdeistref sirol. Gweler hefydCyfeiriadau
Dolen allanolGwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
|
Portal di Ensiklopedia Dunia