Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni
Sefydlwyd Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni ar yr ail o Dachwedd, 1833, yn y Sun Inn yn Y Fenni, Sir Fynwy. Dewiswyd y swyddogion canlynol:
Amcan y gymdeithas oedd rhoi cyfle i'r aelodau gymdeithasu yn y Gymraeg ac i hybu'r Gymraeg. Ymhlith rheolau'r gymdeithas oedd rheol yn mynnu bod pob ymddiddan ac araith barhaol i fod yn y Gymraeg yn unig. Yn fuan iawn daeth rhai o foneddigion yr ardal yn aelodau gan gynnwys Sir Charles Morgan, Tredegar a Mr a Mrs Benjamin Hall a mam Mrs Hall, Mrs Waddington, a Lady Coffin Greenly o Titley Court, Henffordd. Un arall a gafodd groeso mawr gan y gymdeithas oedd Y Parch Thomas Price neu fel yr adnabyddir ef hyd heddiw sef Carnhuanawc. Sefydlwyd The Welsh Manuscripts Society yn 1836 gan aelodau o'r Cymreigyddion fel cymdeithas hynafiaethol gyda'r amcan o gyhoeddi llawysgrifau Cymreig. Cynhaliwyd Eisteddfodau'r Fenni gan y gymdeithas o 1834 i 1854. Gweler hefyd |
Portal di Ensiklopedia Dunia