Cymdeithas Bêl-droed Estonia
Cymdeithas Bêl-droed Estonia (Estoneg: Eesti Jalgpalli Liit; EJL) yw corff llywodraethu pêl-droed, pêl-droed traeth a futsal yn Estonia. Wedi'i sefydlu ar 14 Rhagfyr 1921,[2] mae'n trefnu'r gynghrair bêl-droed, gan gynnwys y bencampwriaeth o'r enw y Meistriliiga (y prif adran), Cwpan Estonia a thîm pêl-droed cenedlaethol Estonia. Mae wedi'i leoli yn y brifddinas, Tallinn. Daeth EJL yn aelod o FIFA ym 1923, ond ar ôl i Estonia gael ei chyfeddiannu gan yr Undeb Sofietaidd fe'i diddymwyd. Daeth yn aelod eto yn 1992 ar ôl i Estonia adfer ei hannibyniaeth. EJL yw'r gymdeithas chwaraeon fwyaf yn Estonia, gyda mwy na 30 o weithwyr amser llawn ac yn dod â bron i 10,000 o chwaraewyr cofrestredig ynghyd.[3] Rhagflaenydd EJL oedd y Tallinna Jalapalli Liit. HanesYn haf 1922, anfonodd Cymdeithas Bêl-droed Estonia gais ffurfiol at FIFA. Ar 1 Tachwedd 1922, rhoddodd FIFA gydnabyddiaeth ragarweiniol i'r EJL, ac yng Nghyngres Genefa yn 1923, cynhwyswyd Estonia fel aelod o FIFA (yn yr un gyngres, derbyniwyd Latfia hefyd a chydnabuwyd Cynghrair Chwaraeon Lithwania). Bryd hynny, roedd 20 aelod gan FIFA. Yn 1924, cymerodd cynrychiolwyr Cymdeithas Bêl-droed Estonia ran yng Nghyngres FIFA ym Mharis fel rhai oedd eisoes â hawl i bleidleisio. Roedd William Fiskar, Aleksander Lugenberg, Otto Silber, Bernhard Rein a Harald Kaarmann o Estonia ymhlith y 76 o gynrychiolwyr o 27 o wledydd.[4][5][5] Mae EJL wedi bod yn aelod o FIFA ers 1923 ac yn aelod o UEFA ers 1992. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd a chyfnod dan reolaeth yr Undeb Sofietaidd a chyn adfer yr EJL, trefnwyd y bywyd pêl-droed lleol gan Ffederasiwn Pêl-droed SSR Estonia. Yn 1997 tynnodd yr EJL ei hun o aelodaeth o'r Eesti Spordi Keskliit (Cymdeithas Chwaraeon Estonia).[6] FfraeYn 2017, rhoddodd FIFA ddirwy o 30,000 o ffranc Swisaidd (26,000 ewro) i Gymdeithas Bêl-droed Estonia a rhoddodd rybudd iddynt oherwydd digwyddiad pan daflodd cefnogwyr Bosnia a Herzegovina ddeunydd llosgi ar y cae.[7] Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia