Cyfiawnder cymdeithasol![]() Cysyniad o berthynas deg a chyfiawn rhwng yr unigolyn a'r gymdeithas, yn nhermau dosbarthiad cyfoeth, cyfleoedd cyfartal, a breintiau cymdeithasol yw cyfiawnder cymdeithasol. Yng ngwareiddiad y Gorllewin, yn ogystal â hen ddiwylliannau Asia, cyfeiriai cysyniad cyfiawnder cymdeithasol yn aml at y broses o sicrhau bod yr unigolyn yn cyflawni ei ddyletswyddau cymdeithasol ac yn derbyn ei haeddiant oddi wrth gymdeithas.[1][2][3] Mewn mudiadau llawr gwlad cyfoes sydd yn ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol, pwysleisir mudoledd cymdeithasol, creu rhwydi diogelwch yn y wladwriaeth les, a chyfiawnder economaidd.[4][5][6][7][8] Mae cyfiawnder cymdeithasol yn pennu hawliau a dyletswyddau i sefydliadau cymdeithas, sydd yn galluogi pobl i dderbyn buddion a beichiau sylfaenol o ganlyniad i gydweithredu cymdeithasol. Mae sefydliadau o'r fath yn cynnwys systemau trethiant, yswiriant cymdeithasol, iechyd cyhoeddus, ysgolion y wladwriaeth, gwasanaethau cyhoeddus, cyfraith lafur, a rheoliadau ar y farchnad, i sicrhau dosbarthiad cyfoeth teg a chyfleoedd cyfartal.[9] Mae'n rhai i ddehongliadau sydd priodoli perthynas ddwyochrog, rhwng yr unigolyn a chymdeithas, i gyfiawnder sylwi ar wahaniaethau diwylliannol: mae rhai traddodiadau yn pwysleisio dyletswydd yr unigolyn tra bo eraill yn canolbwyntio ar gydbwyso mynediad i rym a defnyddio grym mewn ffordd gyfrifol.[10] Gelwir ar gyfiawnder cymdeithasol wrth ail-ddehongli meddylwyr hanesyddol megis Bartolomé de las Casas, mewn dadleuon athronyddol am wahaniaethau rhwng bodau dynol, mewn ymdrechion dros gydraddoldeb rhyw, ethnig, a chymdeithasol, ac wrth gefnogi cyfiawnder i ymfudwyr, carcharorion, yr amgylchedd, a phobl anabl.[11][12][13] Gellir olrhain cysyniad cyfiawnder cymdeithasol yn ôl i ddiwinyddiaeth Awstin o Hippo hyd at athroniaeth Thomas Paine, ond bathwyd y term ei hun yn y 1780au. Yn draddodiadol, dywed i offeiriad o Iesüwr, Luigi Taparelli, fathu'r term, a ddaeth yn boblogaidd yn ystod chwyldroadau 1848 drwy waith Antonio Rosmini-Serbati.[2][14][15] Mae ymchwil diweddar yn dangos i'r term "cyfiawnder cymdeithasol" gael ei ddefnyddio yn y 18g,[16] er enghraifft yn y Federalist Papers (1787–88) a ysgrifennwyd gan Alexander Hamilton, James Madison, a John Jay. Yng nghyfnod diweddar y Chwyldro Diwydiannol, dechreuodd ysgolheigion y gyfraith yn Unol Daleithiau America ddefnyddio'r term yn fynych, yn enwedig Louis Brandeis a Roscoe Pound. Ers dechrau'r 20g defnyddiwyd y term yn y gyfraith ryngwladol a chan sefydliadau rhyngwladol. Er enghraifft, mae rhagarweiniad y ddogfen i sefydlu'r Mudiad Llafur Rhyngwladol yn datgan "dim ond os yw'n seiliedig ar gyfiawnder cymdeithasol y gellir sicrhau heddwch i bawb ac am byth". Yn ail hanner yr 20g gosodwyd cyfiawnder cymdeithasol yn ganolog i athroniaeth y cyfamod cymdeithasol, yn bennaf gan John Rawls yn ei gyfrol A Theory of Justice (1971). Mae Datganiad Fienna (1993), a gyhoeddwyd gan Gynhadledd Hawliau Dynol y Byd y Cenhedloedd Unedig, yn trin cyfiawnder cymdeithasol yn bwrpas addysg hawliau dynol. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia