Cwtiad torchog bach
Mae'r Cwtiad Torchog Bach (Charadrius dubius) yn aelod o deulu'r rhydyddion sy'n nythu trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gorllewin Asia. Mae ganddo gefn brownllwyd, bol gwyn a bron wen gyda thorch ddu ar ei thraws. Mae ganddo ddu o gwmpas ei lygaid a chap brown, gyda llinell wen rhyngddynt. Gellir gwahaniaethu rhyngddo a'r Cwtiad Torchog, sydd ychydig yn fwy; mae gan y Cwtiad Torchog Bach linell felen yn amgylchynu'r llygad ac llinell wen ar y talcen rhwng y du a'r brown. Yn wahanol i'r Cwtiad Torchog mae fel rheol yn nythu ger dŵr croyw yn hytrach nag ar lan y môr, yn enwedig ar y graean gerllaw llynnoedd ac afonydd. Mae'n aderyn mudol sy'n treulio'r gaeaf yn Affrica. Mae'r nifer sy'n nythu yng Nghymru yn gymharol fychan, ond mae rhywfaint o gynnydd wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf. |
Portal di Ensiklopedia Dunia