Cronfa Alwen
Cronfa ddŵr ar Fynydd Hiraethog yw Cronfa Alwen, a elwir weithiau, yn gamarweiniol, yn Llyn Alwen. Saif Cronfa Alwen i'r de o'r briffordd A543 ac i'r gogledd o'r A5. Saif Llyn Alwen ei hun ychydig ymhellach i'r gogledd. Adeiladwyd y gronfa ar Afon Alwen rhwng 1909 a 1921 i ddarparu dŵr ar gyfer Penbedw; mae yn awr yn eiddo i Dŵr Cymru ac yn cyflenwi dŵr i ran helaeth o ogledd-ddwyrain Cymru, gan roi tua 5 miliwn galwyn o ddŵr y dydd. Mae llwybr newydd ar gyfer beicwyr a cherddwyr, Llwybr Alwen, wedi ei adeiladu o gwmpas y gronfa yn ddiweddar. ![]() Dryswch Llyn Alwen/Cronfa AlwenAmbell dro defnyddir yr enw "Llyn Alwen", yn gamarweiniol, ar gyfer Cronfa Alwen, ond mae'r Llyn Alwen gwreiddiol yn gorwedd yr ochr arall i'r A543, tua milltir neu ddau yn uwch i fyny'r afon o ben eithaf Cronfa Alwen, yn y bryniau i'r de o bentref Gwytherin. Dyma'r Llyn Alwen gwreiddiol, tarddle Afon Alwen. Dolen allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia