Corri Wilson
Gwleidydd o'r Alban yw Corri Wilson (ganwyd 11 Ebrill 1965) a oedd yn Aelod Seneddol dros Ayr, Carrick a Cumnock rhwng 2015 a 2017; mae'r etholaeth yn Nwyrain Swydd Ayr, Gogledd Swydd Ayr a De Swydd Ayr, yr Alban. Roedd hi'n cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin. Bu'n weithiwr cymdeithasol am ddeg mlynedd ac yna i Adran Pensiynnau'r Llywodraeth a'r elusen Bernados. Yna bu'n gweithio gyda charcharorion. Yn etholiadau sirol 2012, etholwyd Wilson ar Gyngor Swydd Ayr, ar gyfer ward y Dwyrain.[1] Etholiad 2015Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[2][3] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Corri Wilson 25492 o bleidleisiau, sef 48.8% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +30.8 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 11265 pleidlais. Gweler hefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia