Corhwyaden
Mae'r Gorhwyaden (Anas crecca) yn un o'r hwyaid mwyaf cyffredin sy'n nythu trwy ogledd Ewrop and Asia. Yng Ngogledd America mae ffurf debyg iawn, y Gorhwyaden asgellwerdd (Anas carolinensis), oedd yn cael ei ystyried yr un rhywogaeth hyd yn ddiweddar. Mae'r hwyaden yma yn aderyn mudol ac weithiau yn symud cyn belled ag Affrica yn y gaeaf. Yn y gaeaf gellir gweld heidiau o gannoedd ar adegau. Dyma'r lleiaf o'r genws Anas. Yn ei blu nythu, mae'r ceiliog yn llwyd ar y cefn a'r ochrau gyda melyn o dan y gynffon, darn gwyrdd ar yr adenydd a phen browngoch gyda gwyrdd o gwmpas y llygad. Mae'r iar yn frown neu lwyd, ond gellir eu gwahaniaethu oddi wrth y rhan fwyaf o hwyaid eraill trwy eu bod yn llai a bod ganddynt wyrdd ar yr adain. Wrth hedfan, mae haid yn medru troi a throsi yn sydyn yn yr awyr, bron fel haid o rydyddion. Mae'n nythu mewn gwlybdiroedd lle mae tipyn o dyfiant. Gall pwll bach neu gors fod yn ddigon iddynt fagu cywion. Planhigion yw eu bwyd pennaf. Mae'n aderyn eithaf swnllyd, ac mae gan y ceiliog chwiban glir sy'n nodweddiadol o'r gorhwyaden. Ychydig o barau o'r Gorhwyaden sy'n nythu yng Nghymru, ond yn y gaeaf mae nifer fawr i'w gweld ar lynnoedd a chorsydd. |
Portal di Ensiklopedia Dunia