Corfflu Hyfforddi Corfforol Brenhinol y Fyddin
Corfflu yn y Fyddin Brydeinig yw Corfflu Hyfforddi Corfforol Brenhinol y Fyddin (Saesneg: Royal Army Physical Training Corps; RAPTC). "Be Fit" yw'r ymdeithgan a fabwysiadwyd gan y corfflu ym 1944, gyda geiriau o Land and Sea Tales gan Rudyard Kipling.[1] HanesSefydlwyd Staff Gymnastaidd y Fyddin ym 1860 gyda 12 o swyddogion digomisiwn dan uwchgapten. Gelwir y 12 swyddog gwreiddiol yn y Deuddeg Apostol, ac roeddent mor llwyddiannus gorchmynwyd campfa ar gyfer pob garsiwn erbyn 1862.[1] Newidodd ei enw i Staff Hyfforddi Corfforol y Fyddin ym 1918, ac yna Corfflu Hyfforddi Corfforol y Fyddin ym 1940.[2] Ailenwyd yn Gorfflu Hyfforddi Corfforol Brenhinol y Fyddin yn 2010. GwisgDu gyda pheipiad a ffesin ysgarlad yw lliwiau gwisg y corfflu.[2] Mae bathodyn cap y corfflu yn dangos dau gleddyf wed'iu croesi gyda choron uwchben.[1] CyfeiriadauDolen allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia