Comisiwn y Senedd (Saesneg: Senedd Commission), yw corff corfforaethol Senedd Cymru. Mae'r Comisiwn yn gyfrifol am sicrhau fod eiddo, staff a gwasanaethau yn cael eu darparu i'r Cynulliad. Mae'r Comisiwn yn cynnwys Llywydd y Senedd a phedwar Aelod o bedair plaid, pob un ohonynt gyda'i borffolio gwaith ei hun. Cefnogir y Comisiwn gan staff yr Uned Gorfforaethol.
Cyn Mai 2020, enw'r corff oedd Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Y Comisiwn
Aelodau presennol y Comisiwn yw'r Llywydd (Elin Jones AS) a'r Comisiynwyr yw Suzy Davies AS, Joyce Watson AS, Rhun ap Iorwerth AS a David J Rowlands AS>
Rôl y Comisiwn yw gosod amcanion strategol ac ystyried perfformiad, cytuno ar safonau a gwerthoedd, goruchwylio newidiadau, annog arloesedd a mentergarwch dros y Senedd.
I helpu gyda'r amcanion hyn, mae gan y Comisiynwyr gyfrifoldeb arbennig am rai agweddau o waith y Senedd. Mae hyn yn caniatau gwaith i gymryd lle tu allan i gyfarfodydd ffurfiol y Comisiwn a perthynas gweithio bositif i ddatblygu gyda staff.
Ei rôl yw sicrhau fod gan y Senedd ddigon o adnoddau (o ran staff a strwythur) i weithio'n effeithiol. Mae'r Comisiynwyr yn gyfrifol am oruchwylio tâl a lwfans Aelodau o'r Senedd.
Mae gan y Comisiwn ddyletswyddau pellach yn hyrwyddo ymwybyddiaeth gyhoeddus o'r llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru ac am y system etholiadol presennol a'r dyfodol.
Comisiwn y Trydydd Cynulliad (2007–2011)
Enw
|
Cychwyn swydd
|
Gadael swydd
|
Plaid wleidyddol
|
Rôl benodol
|
|
Dafydd Elis Thomas AC
|
9 Gorffennaf 2007
|
Mai 2011
|
Llywydd y Cynulliad
|
Cadeirydd (fel Llywydd y Trydydd Cynulliad, gyda'r cyfrifoldeb o annog pobl Cymru i ymwneud a'r broses ddemocrataidd, annog arweiniad effeithiol o fewn y Cynulliad, datblygu pwerau deddfu y Cynulliad i'r dyfodol a hyrwyddo cysylltiadau effeithiol gyda rhanddeiliaid allanol.
|
|
William Graham AC
|
9 Mehefin 2007
|
Mai 2011
|
Ceidwadwyr
|
(Comisiynydd dros Adnoddau'r Cynulliad) yn cynnwys rheolaeth staff ac asedau'r Cynulliad (gan gynnwys gweithwyr, contractwyr a gwasanaethau ddarperir i gefnogi staff cefnogi Aelodau'r Cynulliad. Roedd heyd yn gyfrifol am oruchwylio tâl a lwfansau Aelodau'r Cynulliad yn ogystal â sicrhau fod y Cynulliad yn cydymffurfio ag egwyddorion o effeithiolrwydd a rheolaeth dda.
|
|
Lorraine Barrett AC
|
9 Mehefin 2007
|
Mai 2011
|
Llafur
|
(Comisiynydd dros Cynulliad Gynaliadwy) gyda chyfrifoldeb i sicrhau fod y Cynulliad Cenedlaethol yn cydymffurfio a rhagori ar ei bolisiau ar gydraddoldeb a hygyrchedd. Roedd ganddi gyfrifoldeb arbennig dros sicrhau fod y Cynulliad Cenedlaethol a'i adeiladau yn cydymffurfio ag egwyddorion cynaladwyedd.
|
|
Peter Black AC
|
9 Mehefin 2007
|
Mai 2016
|
Y Democratiaid Rhyddfrydol
|
(Comisiynydd dros y Cynulliad a'r Dinesydd) gyda chyfrifoldeb am sicrhau fod y Cynulliad yn effeithiol pan yn cyflawni ei rôl greiddiol o ddal Llywodraeth Cymru i gyfri a gwneud deddfau dros Gymru. Yn ogystal, roedd yn goruchwylio'r mentrau cyfathrebu yn allanol, oedd yn cynnwys addysgu pobl a rôl y Cynulliad, darparu gwybodaeth effeithiol a thechnoleg gyfathrebu i'r Cynulliad.
|
|
Elin Jones AC
|
9 Mehefin 2007
|
18 Medi 2007
|
Plaid Cymru
|
Gadawyd pan gafodd ei apwyntio'n Weinidog Llywodraeth, cymerwyd ei lle gan Chris Franks.
|
|
Chris Franks AC
|
18 Medi 2007
|
Mai 2011
|
Plaid Cymru
|
(Comisiynydd dros Wella'r Cynulliad) gyda chyfrifoldeb dros wellhad parhaol o'r gwasanaethau i Aelodau'r Cynulliad a phobl Cymru, yn cynnwys cynllunio strategol a sicrhau fod y Cynulliad yn rhoi gwerth am arian. Roedd yn gweithio hefyd gyda staff y Cynulliad i wella ymwneud rhanddeiliad gyda'r broses ddemocrataidd.
|
Comisiwn y Pedwerydd Cynulliad (2011–2016)
Comisiwn y Pumed Cynulliad (2016–2021)
Enw
|
Cychwyn swydd
|
Gadael swydd
|
Plaid wleidyddol
|
Rôl benodol [1]
|
|
Elin Jones AS
|
Mai 2016
|
|
Llywydd y Senedd
|
Cadeirydd y Comisiwn (fel Llywydd y Pumed Cynulliad), Cyfathrebu ac ymgysylltu
|
|
Joyce Watson AS
|
8 Mehefin 2016 [2]
|
|
Llafur
|
Cydraddoldebau, a’r Comisiwn fel cyflogwr staff y Senedd
|
|
Suzy Davies AS
|
8 Mehefin 2016 [2]
|
|
Ceidwadwyr
|
Cyllideb a llywodraethiant, gan gynnwys Archwilio a Sicrwydd Risg, aelodau pwyllgorau
|
|
Dai Lloyd AS
|
8 Mehefin 2016 [2]
|
21 Medi 2016
|
Plaid Cymru
|
Ieithoedd swyddogol, a darparu a thrawsnewid gwasanaethau i’r Aelodau
|
|
Adam Price AS
|
21 Medi 2016 [3]
|
21 Tachwedd 2018 [4]
|
Plaid Cymru
|
Ieithoedd swyddogol, a darparu a thrawsnewid gwasanaethau i’r Aelodau
|
|
Siân Gwenllian AS
|
21 Tachwedd 2018 [4]
|
|
Plaid Cymru
|
Ieithoedd swyddogol, a darparu a thrawsnewid gwasanaethau i’r Aelodau
|
|
Rhun ap Iorwerth AS
|
21 Tachwedd 2018 [4]
|
|
Plaid Cymru
|
Ieithoedd swyddogol, a darparu a thrawsnewid gwasanaethau i’r Aelodau
|
|
Caroline Jones AS
|
8 Mehefin 2016 [2]
|
2018
|
UKIP
|
Diogelwch ac adnoddau’r Senedd
|
|
David Rowlands AS
|
14 Tachwedd 2018 [5]
|
|
UKIP
|
Diogelwch ac adnoddau’r Senedd
|
Cyfeiriadau