Colin McRae
Gyrrwr o'r Alban ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd oedd Colin Steele McCrae MBE (5 Awst 1968 – 15 Medi 2007), mab Jimmy McRae, enillydd Pencampwriaeth Rali Prydain pum gwaith, a brawd hyn y gyrrwr proffesiynol Alister McRae. Enillodd Bencampwriaeth Rali'r Byd yn 1995, a bu'n ail yn 1996, 1997 a 2001, a thrydydd yn 1998. Helpodd Colin i Subaru ennill Pencampwriaeth y Gwneuthurwyr yn 1995, 1996 a 1997, a Citroën yn 2003. Cafodd MBE gan y frenhines, Elisabeth II, yn 1996. Bu farw McRae mewn damwain pan ddisgynnodd ei hofrennydd i'r ddaear wrth lanio ar dir ei gartref yn Lanark. GyrfaDechreuodd ei yrfa rali yn 1986, gan yrru Talbot Sunbeam. Roedd yn aml yn cystadlu yng nghystadlaethau Pencampwriaeth Rali'r Alban, a dechreuodd greu enw iw hun am ei gyflymder a'i steil gyffrous o yrru. Cymharwyd ei steil yrru'n aml gyda Ari Vatanen, y gyrrwr rali o'r Ffindir a oedd McRae wastad wedi ei edmygu. Symudodd ymlaen yn fuan i yrru Vauxhall Nova, ac ynaa Ford Sierra XR 4x4. Ei dro cyntaf i gystadlu ym Mhencapwriaeth Ralio'r Byd oedd yn Rali Sweden 1987 tu ôl i llyw ei Nova, ac unwaith eto yn 1989, gyrrodd Sierra a gorffenodd yn y 15fed safle. Yn ddiweddarach yn 1989, gorffenodd yn y 5ed safle yn Rali Seland Newydd mewn Sierra Cosworth â gyrriad olwyn cefn. Ymunodd â dîm Prodrive Subaru yn 1991 ar gyfer Pencampwriaeth Rali Prydain. Bu'n bencampwr Prydeinig ddwywaith, yn 1991 a 1992, graddio'dd yn fuan i statws works ar gyfer y tîm ffactri. Enillodd ei Bencampwriaeth Rali's Byd cyntaf yn 1993, yn y Subaru Legacy a adeiladwyd gan Prodrive yn Rali Seland Newydd, cyn helpu Subaru i ennill tair teitl gwneuthurwyr golynol, gan gynnwys Pencampwriaeth y gyrrwr yn 1995, a enillodd ar ôl Rali Prydain Fawr, gan i'w gyd-aelod tîm, a oedd yn bencampwr y Byd ddwywaith, Carlos Sainz yn gorffen yn ail. Yn ddiweddarach bu iddo ennill Ras y Pencampwyr yn 1998. Yn Awst 2007, datganodd McRae ei fod yn chwilio am dîm ar gyfer cystadlu ym Mhencapwriaeth Rali'r Byd yn 2008, gan ategu os na ddigwyddai hyn y flwyddyn nesaf, ni fyddai'n dychwelyd i gystadlu gan yr oedd ond yn bosib fod allan ohoni ar lefel mor uchel am hyn a hyn. (Saesneg: "if it doesn't happen next year, then I won't (return) because you can only be out of something at that level for so long.")[1] Buddugoliaethau ym Mhencampwriaethau Rali'r Byd
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia