Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Templeton, Gwobr Hawliau Dynol Ewropeaidd, Urdd Croes y De, Dinasyddiaeth Anrhydeddus Palermo, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, honorary doctorate from the Catholic University of Lublin, UNESCO Prize for Peace Education
Ganed Silvia Lubich yn Trento, yr Eidal a bu farw yn Rocca di Papa, sef un o faestrefi Rhufain. Collodd ei thad ei swydd yn ystod cyfnod Ffasgiaeth yr Eidal, oherwydd ei syniadau sosialaidd. O ganlyniad, roedd y Lubichs yn byw am flynyddoedd mewn tlodi eithafol. I dalu am ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Ca' Foscari mewn athroniaeth, bu Lubich yn hyfforddi myfyrwyr eraill yn Fenis ac yn ystod y 1940au dechreuodd ddysgu mewn ysgol elfennol yn Trento.[6][7][8]
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, tra bod bomiau'n dinistrio Trento, cafodd Lubich brofiad crefyddol pwerus a newidiodd ei bywyd am byth. Dywedodd Lubich am y profiad hwn wrth ei ffrindiau agosaf.[9] Ar ôl argyhoeddi ei ffrindiau, pe baent yn cael eu lladd, roeddent roi un arysgrif cerfiedig ar eu beddau: "A chredom mewn cariad". Ar 7 Rhagfyr 1943 arweiniodd ei phrofiad hi i gysegru ei hun i Dduw a newid ei henw i Chiara, er anrhydedd i Chiara o Assisi. Ystyrir y dyddiad hwn fel dechrau'r mudiad Focolare.[10]
Cymunedau bychain o wirfoddolwyr lleyg yw'r Focolare, sy'n ceisio cyfrannu at heddwch ac i sicrhau undod efengylaidd pawb ym mhob amgylchedd cymdeithasol. Nod y mudiad yw byd sy'n byw mewn undod efengylaidd ym mhob haen o gymdeithas. Heddiw ymhlith ei aelodau mae llawer o bobl nad ydynt yn arddel crefydd benodol.[11]
Gwynfydiad
Yn 2013, bum mlynedd ar ôl marwolaeth Chiara Lubich, cafodd ei hachos dros ei gwynfydu ei sefydlu'n ffurfiol wedyn gan Esgobaeth Frascati, lle daeth miloedd i weld sefydlu ei hachos. Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol oedd y cyd-sefydlydd, sef y Tad. Pasquale Foresi.[12][13]
Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Templeton (1977), Gwobr Hawliau Dynol Ewropeaidd, Urdd Croes y De, Dinasyddiaeth Anrhydeddus Palermo, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, honorary doctorate from the Catholic University of Lublin, UNESCO Prize for Peace Education (1997)[14][15][16][17] .
Cyfeiriadau
↑Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
↑Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
↑Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, WikidataQ36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Chiara Lubich". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Chiara Lubich". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.