Chares o Lindos
Cerflunydd Groegaidd a anwyd ar ynys Rhodos oedd Chares o Lindos (ganed 280 CC). Bu'n un o fyfyrwyr Lysippos.[1] Adeiladodd Chares Colosws Rhodos yn 282 CC, a oedd yn gerflun efydd enfawr i dduw yr haul a duw nawdd Rhodos, Helios.[2] Adeiladwyd y cerflun i gofio am fuddugoliaeth Rhodos dros y Macedoniaid a ymosododd arnynt yn 305 CC, o dan arweiniad Demetrius I, mab Antigonus, cadfridog i Alecsander Fawr. Priodolir pen anferthol a ddaethpwyd i Rufain ac a gysegrwyd gan P. Lentulus Spinther i Chares ar Fryn y Capitol, yn 57 CC (Plinius yr Hynaf, Naturalis Historia XXXIV.18).[3] Roedd Colosws Rhodos yn un o Saith Rhyfeddod yr Henfyd,[4] ac fe'i ystyriwyd yn un o weithiau gorau Chares tan iddo gael ei ddinistrio gan ddaeargryn yn 226 CC.[5] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia