Cemotherapi
![]() Mae cemotherapi yn golygu defnyddio meddyginiaethau i ddinistrio celloedd canser. Efo cemotherapi, mae’r meddyginiaethau yn mynd yn syth i lif y gwaed i ymosod ar y celloedd canser ble bynnag maen nhw, a hynny tu allan i’ch ysgyfaint hefyd. Mae tystiolaeth mai’r cyffur cemotherapi mwyaf effeithiol yw pemetrexed, sydd hefyd yn cael ei alw’n Alimta, ochr yn ochr ag ail gyffur. Effeithiau andwyolMae cemotherapi hefyd yn effeithio ar gelloedd normal, sy’n golygu bod sgil-effeithiau tymor byr yn gyffredin. Mae’r rhain yn cynnwys colli gwallt, teimlo’n sâl, ac anaemia (pad nad oes digon o haearn yn eich corff). Efallai bydd mwy o siawns i chi ddal haint hefyd. Mae oncolegyddion wastad yn ceisio lleihau’r sgil-effeithiau hyn cymaint â phosibl. Mae meddyginiaethau cemotherapi yn cael eu rhoi drwy ddrip, dyfais sy’n rhoi hylif yn e ich gwythïen yn ara’ deg, neu drwy chwistrelliadau a thabledi. Fel arfer, fe gewch chi ddau gwrs neu ‘gylch’ ac yna sgan CT arall i weld sut rydych chi’n ymateb i’r driniaeth. Os yw’r cemotherapi yn gweithio, efallai gewch chi gwrs pob tair wythnos, gyda chyfanswm o bedwar i chwe chwrs. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia