Castell Pen-rhys
Lleolir Castell Pen-rhys ym Mhen-rhys ar Benrhyn Gŵyr. Priodolir y castell canoloesol i Robert de Penrice, a fu farw ym 1283.[1] Roedd y castell ym meddiant y teulu Mansel erbyn y 15g.[2] Yn hwyr yn yr oesoedd canol symudodd y teulu i Gastell Oxwich gan roi'r gorau i Ben-rhys, ac aeth yr adeilad yn sarn.[3] Yn nyddiau hwyr preswyliaeth y teulu adeiladwyd colomendy, sydd bellach yn adeilad rhestredig Gradd II*.[4] Difrodwyd y castell yn bellach gan Oliver Cromwell yn y Rhyfel Cartref, ac efallai eto yn y 18g er mwyn creu effaith pictiwrésg.[3] Adeiladwyd plasty Sioraidd islaw yr adfeilion canolesol ar gyfer Thomas Mansel Talbot ym 1773–7; Anthony Keck oedd y pensaer. Prynwyd dau o'r mentyll tân gan Talbot yn ystod ei deithiau yn yr Eidal. Cynlluniwyd y parc gan William Emes ym 1776.[1] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia