Castell Ffwl-y-mwn
Castell a phlasty ym Mro Morgannwg yw Castell Ffwl-y-mwn (Saesneg: Fonmon Castle). Adnewyddwyd y castell canoloesol yn helaeth yn y cyfnod Sioraidd ac ychydig iawn sydd wedi newid ers hynny. Mae disgynyddion y teulu sydd wedi byw yn y castell ers y 17g dal i fyw yno. Mae'n adeilad rhestredig Gradd I. Perchnogion y castell cyntaf oedd y teulu St John; mae'r cofnod cyntaf o'u perchnogaeth o'r faenor yn dyddio'n ôl i ddiwedd y 13g.[1] O ganlyniad i briodas Oliver St John (tua 1394–1437) â Margaret Beauchamp, mam-gu Harri VII, roedd cysylltiad rhwng y teulu hwn a brenhinlin y Tuduriaid.[2] Erbyn canol yr 17g roedd rhaid i'r teulu St John werthu eu hystadau ym Morgannwg, ac ym 1656 fe brynwyd maenor Ffwl-y-mwn gan y Cyrnol Philip Jones.[3] Ef oedd y milwr mwyaf blaenllaw ar ochr y Senedd yn ne Cymru yng nghyfnod y Werinlywodraeth. Ni ddewisodd fyw ar yr ystâd hwn nes iddo ymneilltuo o fywyd cyhoeddus ar ôl adferiad y frenhiniaeth ym 1660.[4] Ychwanegwyd casgliad sylweddol o beintiadau i ddodrefn y tŷ gan ŵyr Philip Jones, Robert Jones II (1706–42).[5] Roedd y rhain yn cynnwys peintiad o'r teulu gan William Hogarth sydd bellach yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.[6] Ym 1762 adnewyddwyd y tŷ yn gwfangwbl ar gyfer mab y dyn hwn, sef Robert Jones III (1738–93), gan gwmni pensaernïol Thomas Paty o Fryste. Ystyrir nenfwd y llyfrgell, a wnaed gan y plastrwr o Fryste Thomas Stocking,[5] yn "waith plastr rococo gorau Cymru".[7] Gwnaeth yr adeilad argraff fawr ar Iolo Morganwg.[8] Ym 1917 daeth llinach gwrywaidd y teulu Jones i ben ac fe etifeddwyd yr ystâd gan deulu bonheddig Seisnig hynafol o'r enw Boothby. Daeth Castell Ffwl-y-mwl yn brif gartref y teulu ac maent dal i fyw yno hyd heddiw.[9] Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
Dolen allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia