Carlos Menem
Gwleidydd a chyfreithiwr o'r Ariannin oedd Carlos Saúl Menem (2 Gorffennaf 1930 – 14 Chwefror 2021) a fu'n Arlywydd yr Ariannin o Orffennaf 1989 i Ragfyr 1999. Gwasanaethodd hefyd yn Seneddwr dros Dalaith La Rioja o 2005 hyd at ei farwolaeth. Aelod o'r Partido Justicialista ydoedd, ac yn arweinydd y blaid honno o Awst 1990 i Fehefin 2001 ac eto o Dachwedd 2001 i Fehefin 2003, a gelwir ei ffurf ar ideoleg Peroniaeth yn Menemiaeth. Ganed yn Anillaco yn Nhalaith La Rioja i deulu o dras Syriaidd. Cafodd ei fagu'n Fwslim,[1] ond yn ddiweddarach trodd yn Gatholig i ganlyn gyrfa wleidyddol. Daeth Menem yn Beronydd yn ystod taith i'r brifddinas Buenos Aires ac arweiniodd y Partido Justicialista yn Nhalaith La Rioja. Fe'i etholwyd yn llywodraethwr La Rioja ym 1973. Cafodd ei ddymchwel wedi i'r jwnta filwrol gipio grym ym 1976. Ail-etholwyd Menem yn llywodraethwr La Rioja unwaith eto yn sgil cwymp y jwnta ym 1983. Bu Menem yn drech nag Antonio Cafiero, llywodraethwr Buenos Aires, yn rhagetholiadau'r Partido Justicialista ar gyfer etholiad arlywyddol 1989. Etholwyd Menem yn Arlywydd yr Ariannin ym 1989, a chwtogwyd ar y cyfnod trawsnewid wedi i'r Arlywydd Raúl Alfonsín ymddiswyddo o ganlyniad i orchwyddiant a therfysgoedd. Yn ystod ei dymor cyntaf, cefnogodd Menem ddiwygiadau economaidd yn unol â Chonsensws Washington, a chyflwynodd gynllun ym 1991 i sefydlogi'r peso Archentaidd a gostwng chwyddiant. Yn sgil y polisïau hyn, a phreifateiddio sawl cwmni gwladwriaethol, gwellodd yr economi. O ran polisi tramor, ailsefydlwyd cysylltiadau diplomyddol â'r Deyrnas Unedig am y tro cyntaf ers Rhyfel y Falklands (1982), a datblygodd Menem berthynas glos ag Unol Daleithiau America. Bu dau ymosodiad terfysgol yn ystod y cyfnod hwn, yn erbyn llysgenhadaeth Israel ym 1992 ac yn erbyn adeilad yr AMIA ym 1994. Wedi buddugoliaeth ei blaid yn etholiadau 1993, llwyddodd Menem i ddwyn perswâd ar Raúl Alfonsín i arwyddo Cytundeb Olivos a phasio gwelliant i Gyfansoddiad yr Ariannin ym 1994 a oedd yn galluogi Menem i ymgyrchu eto am yr arlywyddiaeth. Enillodd Menem etholiad 1995, a chychwynnodd ar ei ail dymor yn wyneb argyfwng economaidd newydd. Enillwyd etholiadau 1997 ac etholiad arlywyddol 1999 gan glymblaid o'i wrthwynebwyr. Ceisiodd Menem am yr arlywyddiaeth eto yn 2003, ond cafodd ei drechu gan Néstor Kirchner yn y bleidlais i arwain y Partido Justicialista. Fe'i etholwyd yn seneddwr dros Dalaith La Rioja yn 2005, a bu yn y swydd honno hyd at ddiwedd ei oes. Wedi iddo ildio'r arlywyddiaeth, cafodd Menem ei roi ar brawf ar gyhuddiadau o fasnachu arfau yn anghyfreithlon, embeslu arian cyhoeddus, cribddail, a llwgrwobrwyaeth. Fe'i dedfrydwyd i saith mlynedd o garchar am fasnachu arfau a phedair mlynedd a hanner am embeslu; fe'i cafwyd yn ddi-euog o'r cyhuddiadau eraill. Oherwydd ei safle yn Seneddwr dros La Rioja, roedd ganddo freinryddid rhag y carchar.[2][3] Bu farw Carlos Menem yn Buenos Aires yn 90 oed. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia