Capel Bethesda, yr Wyddgrug
Capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Yr Wyddgrug yw Capel Bethesda. HanesSefydlwyd yr eglwys yn ardal Ponterwyl yn ail hanner y 18g gan gyfarfod ar y cychwyn yn nhŷ gwraig o'r enw Sally Powell. Wrth i'r eglwys dyfu fe symudwyd i sgubor yn ardal Glanrafon o'r dref. Prynwyd adeilad yn y man ac yn sgil twf yr eglwys yn nechrau'r 19g yng nghyfnod arweinyddiaeth Thomas Jones (Dinbych wedi hynny), fe adeiladwyd y capel cyntaf 1819 ar y safle presennol ar Stryd Newydd. Gosodwyd carreg sylfaen y capel presennol ar Fehefin 25ain 1863 a'i agor ymhen y flwyddyn, gan chwalu'r hen un a'i ailadeiladu yn helaethach ar ffurf clasurol gyda cholofnau Corinthaidd yn cynnal y porth yn y blaen a lle i tua 800 addoli. Cododd yr angen am ailadeiladu yn sgil effaith [diwygiad 1859] yn yr ardal pryd y gwelwyd ychwnegu 250 o aelodau at yr eglwysi. ![]() Roedd Robert Ellis a dderbyniwyd at y rhai gafodd eu hordeinio gyntaf gan y Methodistiaid Calfinaidd ym 1811 ymhlith yr arweinyddion cyntaf. Roedd y bardd Jane Ellis, y ferch gyntaf i weld cyhoeddi ei gwaith yn y Gymraeg, yn aelod yn yr eglwys. Daeth John Roberts (Minimus) yn aelod yma ynghanol y 19eg ganrif gan barhau yn ei swyddogaeth fel ysgrifennydd cyntaf a sefydlydd cenhadaeth dramor y Methodistiaid Calfinaidd. Bu'n gyd-olygydd Y Drysorfa gyda Roger Edwards. Bu Roger Edwards yn weinidog yma a dyma'r capel a fynychwyd gan Daniel Owen. Ymhlith Gweinidogion yr 20g mae John Owen, G. Parry Williams, W. Ffowc Evans, Gruffydd Owen, R. Gwilym Hughes, J. Eirian Davies, E. Elfyn Richards a Gareth Edwards. Bu'r eglwys dan arweiniad Huw a Nan Powell-Davies yn ystod yr 21ain ganrif. Llyfryddiaeth
|
Portal di Ensiklopedia Dunia