Cannwyll y llygad
Cannwyll y llygad yw'r rhan mewnol, du, sef twll sydd wedi'i leoli yng nghanol iris y llygad sy'n caniatáu i olau daro'r retina.[1] Mae'n ymddangos yn ddu oherwydd bod pelydrau golau sy'n mynd i mewn i 'r gannwyll naill ai'n cael eu hamsugno gan feinweoedd y tu mewn i'r llygad yn uniongyrchol, neu'n cael eu hamsugno ar ôl adlewyrchiadau gwasgaredig o fewn y llygad. Mae maint y gannwyll yn cael ei reoli gan yr iris, ac mae'n amrywio, yn dibynnu ar lawer o ffactorau, y mwyaf arwyddocaol yw faint o olau sydd yn yr amgylchedd hy y tu allan i'r llygad.[2] Fe'i defnyddiwyd yn gyntaf yn fersiwn 1588 o'r Hen Destament, yn Llyfr Deuteronomium[3]. Mewn bodau dynol, mae cannwyll y llygad (Saesneg: pupil) yn grwn, ond mae ei siâp yn amrywio rhwng rhywogaethau; mae gan rai morfleiddiaid, ymlusgiaid a llwynogod gannwyll llygad hollt fertigol, ac mae gan geifr a defaid gannwyll llygad llorweddol, mathau annula sydd gan rai morfleiddiaid.[4] Mewn termau optegol ac anatomegol, cannwyll y llygad yw agorfa'r llygad. Ar yr ymyl fewnol mae strwythur amlwg, y colaréd, sy'n nodi cyffordd y bilen ddisgyblol embryonig sy'n gorchuddio'r canhwyllol embryonig. SwyddogaethMae'r iris yn strwythur cyfangol, sy'n cynnwys cyhyr llyfn yn bennaf, o amgylch cannwyll y llygad. Mae golau'n mynd i mewn i'r llygad trwy'r gannwyll, ac mae'r iris yn rheoli faint o olau trwy reoli maint yr agoriad. Gelwir hyn yn atgyrch golau canhwyllol. Ceir dau grŵp o gyhyrau llyfn yn yr iris; grŵp crwn o'r enw'r sffincter y gannwyll, a grŵp rheiddiol o'r enw lledwr y gannwyll. Pan fydd sffincter y gannwyll yn cyfangu, mae'r iris yn lleihau neu'n cyfyngu ar faint y gannwyll. Mae lledwr y gannwyll yn ymledu, sy'n cael ei ysgogi gan nerfau sympathetig o'r ganglion serfigol uchaf, yn achosii'r gannwyll i ymledu pan fydd yn cyfangu. Cyfeirir at y cyhyrau hyn weithiau fel 'cyhyrau llygaid cynhenid'. Mae'r llwybr synhwyraidd wedi'i gysylltu â'i gymar yn y llygad arall trwy drawsgroesi ffibrau yn rhannol o'r naill lygad i'r llall. Mae hyn yn achosi'r effaith mewn un llygad i gario drosodd i'r llall. Effaith golau![]() Mae'r gannwyll ddu yn lledu yn y tywyllwch ac yn culhau yn y golau. Pan fydd yn gul, mae'r diamedr rhwng 2 i 4 milimetr. Yn y tywyllwch bydd yr un peth ar y dechrau, ond yna ym mhen ysbaid, bydd tua 3 i 8 mm. Fodd bynnag, mewn unrhyw grŵp oedran dynol mae amrywiaeth sylweddol ym maint canhwyllau'r llygaid. Er enghraifft, ar yr oedran pan fo'r llygad yn ei anterth o 15, gall y gannwyll mewn golau gwa amrywio o 4 mm i 9 mm rhwng gwahanol bobl. Ar ôl 25 oed, mae maint cyfartalog y gannwyll yn gostwng, ond nid ar gyfradd gyson.[5][6] Yn y cyfnod hwn, nid yw'r gannwyll yn aros yn hollol llonydd, felly gall arwain at osgiliad, a all ddwysáu a chael ei adnabod fel <i>hippus</i>. Mae cysylltiad agos rhwng cyfyngiad y gannwyll a golwg agos.[7] Pan fydd golau llachar yn cael ei ddisgleirio ar y llygad, bydd celloedd sy'n sensitif i olau yn y retina, gan gynnwys ffoto-dderbynyddion rhodenni a chôn a chelloedd ganglion melanopsin, yn anfon signalau i'r nerf llygatsymudol (<i>oculomotor</i>), yn benodol y rhan parasympathetig sy'n dod o gnewyllyn Edinger-Westphal, sy'n dod i ben ar y cyhyr sffincter iris crwn. Pan fydd y cyhyr hwn yn cyfangu, mae'n lleihau maint y gannwyll. Dyma'r atgyrch golau canhwyllol, sy'n brawf pwysig o weithrediad coesyn yr ymennydd. Ymhellach, bydd y gannwyll yn ymledu os bydd person yn gweld gwrthrych o ddiddordeb ee gwrthrych neu berson erotig. Arwyddocâd clinigolEffaith cyffuriauOs rhoddir y cyffur pilocarpin i berson, bydd canhwyllau'r llygaid yn cyfyngu a chynyddir y rhan sy'n derbyn golau oherwydd y gweithredu parasympathetig ar y ffibrau cyhyrau crwn. Ar y llaw arall, mae atropine yn achosi parlys cycloplegia ac mae canhwyllau'r llygaid yn ymledu. Mae rhai cyffuriau megis opioidau yn achosi cyfyngiad ar y canhwyllau,[8] Gall cyffuriau eraill, megis atropine, LSD, MDMA, mescaline, madarch psilocybin, cocên ac amffetaminau achosi ymlediad yng nghanwyllau'r llygaid.[9][10] Term arall am gyfyngiad y gannwyll yw miosis. Disgrifir sylweddau sy'n achosi miosis fel miotig. Ymlediad y gannwyll yw mydriasis. Gall ymledu gael ei achosi gan sylweddau mydriatig fel hydoddiant diferyn llygad sy'n cynnwys tropicamid.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia