Camera
![]() Mae camera yn cael ei ddefnyddio i gofnodi lluniau neu ddelweddau ac yn ddibynnol, fel arfer, ar olau. Gall y lluniau hyn fod yn statig neu'n symudol, fel fideo, a chael eu cynhyrchu ar ffilm, ar negydd, ar bapur neu mewn fformat digidol. Gall hefyd gael ei drosglwyddo i gyfrwng arall. Daw'r gair o'r Lladin am "ystafell dywyll", sef dull cynnar o greu delwedd gyda golau'r haul, sef y camera obscura, un o gyndeidiau'r camera digidol modern.[1] Gall y camera weithio gyda golau o'r sbectrwm weladwy neu gyda rhannau eraill o'r sbectrwm electromagnetig. Gan amlaf, mae gan camerâu gafn caeëdig gydag agorfa (yr aperture, neu dwll bychan) er mwyn i olau fynd i mewn i'r camera ac yna arwyneb recordio er mwyn cipio'r olau.[2] Mae ganddo hefyd lens o flaen yr agorfa i gasglu'r golau a'i ffocysu ar yr arwyneb recordio. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia