Calderdale
Bwrdeistref fetropolitan yng Ngorllewin Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Calderdale. Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 364 km², gyda 211,455 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Ddinas Bradford i'r gogledd-ddwyrain, Kirklees i'r de-ddwyrain, Manceinion Fwyaf i'r de-orllewin, a Swydd Gaerhirfryn i'r gogledd-orllewin. ![]() Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Gorllewin Swydd Efrog, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas. Rhennir y fwrdeistref yn saith plwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Halifax, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Brighouse, Elland, Hebden Bridge, Mytholmroyd, Sowerby Bridge a Todmorden. Enwir y fwrdeistref ar ôl Afon Calder, y mae ei dyfroedd uchaf yn llifo trwyddi. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia