Bwrdeistref Hartlepool
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Durham, Gogledd-ddwyrain Lloegr, yw Bwrdeistref Hartlepool (Saesneg: Borough of Hartlepool). Mae'r awdurdod unedol yn rhan o Awdurdod Cyfun Cwm Tees, gyda Bwrdeistrefi Darlington, Middlesbrough, Redcar a Cleveland, a Stockton-on-Tees. Mae gan yr ardal arwynebedd o 93.3 km², gyda 93,663 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio awdurdod unedol Swydd Durham i'r gogledd-orllewin, Bwrdeistref Stockton-on-Tees i'r de, a Môr y Gogledd i'r gogledd-ddwyrain. ![]() Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974, fel un o'r pedair ardal an-fetropolitan dan reolaeth cyngor sir Cleveland, ond daeth yn awdurdod unedol, sy'n annibynnol ar y sir, ar 1 Ebrill 1996. Rhennir y fwrdeistref yn wyth plwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Hartlepool, lle mae ei phencadlys.
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia