Bullitt
Ffilm gyffro Americanaidd a gyfarwyddwyd gan Peter Yates ac a gynhyrchwyd gan Philip D'Antoni ydy Bullitt. Serenna Steve McQueen, Robert Vaughn a Jacqueline Bisset. Seiliwyd y sgript Alan R. Trustman a Harry Kleiner ar y nofel Mute Witness (1963) gan Robert L. Fish, a oedd yn ysgrifennu o dan y ffugenw Robert L. Pike. Lalo Schifrin ysgrifennodd y sgôr wreiddiol. Chwaraea Robert Duvall ran fechan yn y ffilm fel gyrrwr tacsi sy'n rhoi gwybodaeth i McQueen. Gwnaed y ffilm gan gwmni McQueen, Solar Productions, gyda'i bartner Robert E. Relyea yn uwch-gynhyrchydd. Cafodd y ffilm ei rhyddhau gan Warner Bros.-Seven Arts ar 17 Hydref, 1968, a bu'n llwyddiannus o ran gwerthiant tocynnau ac ymateb y beirniaid. Ychydig yn ddiweddarach, enillodd Wobr yr Academi am y Golygu Gorau ac enwebiad arall am y Sain Gorau. Mae Bullitt yn nodedig am yr olygfa lle mae car yn cael ei gwrso ar hyd strydoedd San Francisco, golygfa a ystyrir yn un o'r rhai mwyaf dylanwadol erioed. Yn 2007, penderfynodd Llyfrgell y Gyngres y dylid cadw Bullitt yng Nghofrestrfa Ffilm Cenedlaethol yr Unol Daleithiau am ei bod "o arwyddocad diwylliannol, hanesyddol, neu esthetaidd".[1] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia