Brwydr Passchendaele
![]() ![]() Un o frwydrau'r Rhyfel Byd Cyntaf a ddigwyddodd rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd 1917 oedd Brwydr Passchendaele (hefyd Trydedd Brwydr Ypres). Ymladdwyd y frwydr ger dinas Ypres yng Ngwlad Belg, rhwng byddin yr Almaen dan Max von Gallwitz ac Erich Ludendorff, a lluoedd y cynghreiriaid, yn cynnwys milwyr o wledydd Prydain, Awstralia, Seland Newydd, Canada a Ffrainc ymysg eraill, dan Douglas Haig a Hubert Gough. Dedleuai Prif Weinidog Prydain, sef David Lloyd George, yn erbyn y frwydr am nifer o resymau [1]. Cytunai'r Cadfridog Ffrengig Ferdinand Foch gydag ef. Credai'r ddau y dylid aros am gymorth yr Americanwyr. Dechreuodd yr ymladd yn y cylch ym mis Mehefin, a dechreuodd y frwydr ei hun ar 31 Gorffennaf 1917.[2] Roedd yr ymgyrch wedi'i chynllunio gan Haig, er gwaethaf gwrthwynebiad Lloyd George. Y bwriad oedd torri drwy linellau'r Almaen a chipio porthladdoedd Oostende a Zeebrugge, oedd yn cael eu defnyddio gan longau tanfor yr Almaen. Parhaodd y frwydr hyd 6 Tachwedd 1917, pan gipiwyd Passendale, oedd erbyn hynny yn ddim ond ychydig o adfeilion ynghanol y mwd. Mae dadl yn parhau ynglŷn â cholledion y ddwy ochr; yn ôl rhai ffigyrau collodd y cynghreiriaid 448,000 o filwyr wedi eu lladd neu eu clwyfo, a'r Almaen 260,000. Yn ôl eraill, roedd y ffigyrau yn fwy cyfartal. Enwau'r FrwydrMae Trydedd Brwydr Ypres yn enw cyffredin arall ar Frwydr Passchendaele. Am gyfnod, defnyddid yr enw Brwydr Messines 1917 yn ogystal. Yr enw yn Almaeneg yw Trydedd Brwydr Fflandrys (Almaeneg: 'Dritte Flandernschlacht'), a'r enw Ffrangeg yw Ail Frwydr Fflandrys (Ffrangeg: '2ème Bataille des Flandres'). Hedd WynRhan o Frwydr Passchendaele oedd Brwydr Cefn Pilckem, lle lladdwyd Hedd Wyn ar 31 Gorffennaf, diwrnod cynta'r frwydr. Roedd Simon Jones o Lanuwchllyn yn yr un frwydr, ac mewn sgwrs a recordiwyd gan Amgueddfa Werin Cymru ym 1975, mae'n disgrifio sut y gwelodd Hedd Wyn yn syrthio:
Ym Mrwydr Cefn Pilckem hefyd y bu farw'r bardd o Iwerddon Francis Ledwidge. Ymdrechion y CymryYr oedd effeithion ac profiadau y chwarelwyr yn effeithiol iawn o palmantu ffordd i'r fyddin ymdrechu, dyma un engrhaifft gan newyddiadurwr papur newydd 'Caernarvon & Denbigh Herald' a oedd yn Ffrainc ar y pryd;
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia