Brownhills
Tref yn sir Gorllewin Canolbarth Lloegr, yn rhanbarth Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Brownhills.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Walsall. Cyn 1974 roedd yn rhan o sir hanesyddol Swydd Stafford. Saif tua 11 milltir (17 km) i'r gogledd o ganol Birmingham. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Brownhills boblogaeth o 20,373.[2] Mwyngloddio oedd prif ddiwydiant y dref tan y 1950au, ond ar ôl cau'r pyllau dioddefodd yr ardal ddirywiad economaidd difrifol sydd wedi parhau tan heddiw. Cyfeiriadau
Dinasoedd a threfi
Dinasoedd ![]() |
Portal di Ensiklopedia Dunia