Brno
Dinas yn ne-ddwyrain Tsiecia yw Brno (Almaeneg: Brünn). Hon ydy dinas ail fwyaf y wlad, ar ôl y brifddinas Prag, a phrif ganolfan wleidyddol a diwylliannol rhanbarth Morafia. Saif ar odreon dwyreiniol Ucheldiroedd Bohemia-Morafia, ger cydlifiad afonydd Svratka a Svitava. I'r gogledd lleolir Carst Morafia, rhanbarth sy'n nodedig am ei ogofâu, grotos, a cheunentydd. HanesMae olion archaeolegol o amgylch y ddinas yn profi presenoldeb dynol yn yr ardal ers cynhanes. Cafwyd hyd i esgyrn Neanderthal yn ogof Švédův Stůl, a gwersyll y bobl Gro-Magnon, helwyr mamothiaid o 30,000 CC, yn Dolní Věstonice ar gyrion Ucheldiroedd Mikulov, oddeutu 30 km (20 milltir) i'r de. Cyfaneddwyd yr ardal gan y Celtiaid, ac yna'r Slafiaid yn y 5g a'r 6g.[1] Mae'n bosib bod "Brno" yn tarddu o'r enw ar "fryn-dref" yn iaith Celteg y Cyfandir, ac felly'n deillio o'r un bôn â'r gair Cymraeg "bryn". Daeth tiroedd Bohemia a Morafia dan reolaeth Dugiaid Bohemia o'r 9g ymlaen, ac felly'n rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Saif dinas bresennol Brno rhwng dau fryn, a chodwyd Castell Špilberk ar un o'r bryniau gan dywysog o Dŷ Přemysl yn y 11g. Cyfunwyd is-dywysogaethau Brno, Olomouc a Znojmo ym 1182 i ffurfio Ardalyddiaeth Morafia, un o diroedd coronog Bohemia, a dyrchafwyd y ddugiaeth yn Deyrnas Bohemia ym 1198. Gwahoddwyd gwladychwyr Almaenig i'r ardal yn y 13g, yn ystod teyrnasiadau Otakar I a Václav I, a chafodd Brno (neu Brünn yn Almaeneg) ei hymgorffori'n ddinas ym 1243. Derbyniodd siarter frenhinol i'w chydnabod yn ddinas rydd gyda llywodraeth ei hun, dan brotectoriaeth Brenin Bohemia.[2] Ymochrodd Brno â'r garfan Gatholig yn ystod Rhyfeloedd yr Husiaid (1419–34), a byddai Castell Špilberk yn gwrthsefyll gwarchae gan yr Husiaid ym 1428. Ym 1645, yn ystod y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, llwyddodd y castell i wrthsefyll gwarchae arall a godwyd gan arno gan luoedd Teyrnas Sweden. Meddiannwyd Brno gan luoedd Napoleon I ym 1805, ac 11 km (7 milltir) i dde-ddwyrain y ddinas bu'r Ffrancod yn drech na byddinoedd Awstria a Rwsia ym Mrwydr Austerlitz. Dan reolaeth y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd, cafodd y castell ei droi'n garchar gwleidyddol ac ysbyty milwrol. Parhaodd Brno yn ddinas ddwyieithiog gyda mwyafrif Almaenig ethnig hyd at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Y brif dafodiaith yn ystod hanner cyntaf yr 20g oedd Brünnerisch, ffurf ar Almaeneg gyda nifer o fenthyceiriau ac elfennau eraill o Tsieceg. Wedi i'r Fyddin Goch feddiannu'r ddinas ym 1945, gyrrwyd y trigolion Almaenig yn alltud, a bu farw nifer ohonynt ar y daith i'r ffin ag Awstria. Yn sgil ailsefydlu Tsiecoslofacia, gorfodwyd i filoedd rhagor o Almaenwyr adael Brno gan lywodraeth Edvard Beneš. Bellach, mae mwyafrif helaeth o boblogaeth Brno yn Tsieciaid neu Forafiaid ethnig. EnwogionYmhlith yr enwogion a hanai o Brno mae'r cyfansoddwr Leoš Janáček (1854–1928) a'r llenor Milan Kundera (1929–2023). Hefyd:
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia