Brigham Young
Un o arweinwyr amlycaf Mormoniaeth yn yr Unol Daleithiau oedd Brigham Young (1 Mehefin 1801 - 29 Awst 1877). Ef oedd arweinydd symudiad y Mormoniaid tua'r gorllewin, a sefydlydd Salt Lake City yn Utah. Ganed Young yn Vermont, a bu'n gweithio fel saer a gôf. Cafodd droedigaeth at Formoniaeth wedi darllen Llyfr Mormon yn fuan wedi ei gyhoeddi yn 1830. Daeth yn flaenllaw fel cenhadwr ac arweinydd. Yn 1844, llofruddiwyd arweinydd y mudiad, Joseph Smith. Symudodd carfan sylweddol o'r Mormoniaid tua'r gorllewin dan arweiniad Young, a sefydlwyd Salt Lake City yn 1847. Apwyntiwyd ef yn rhaglaw cyntaf Tiriogaeth Utah gan yr Arlywydd Millard Fillmore, yn ogystal â bod yn arweinydd Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf. Roedd Young yn adnabyddus am ei gred mewn amlwreigiaeth; bu ganddo 55 o wragedd i gyd a chafodd 56 o blant. |
Portal di Ensiklopedia Dunia