Borobudur
Mae Borobudur yn deml Fwdhaidd (o'r traddodiad Mahayana) ar ynys Jafa, Indonesia. Mae'n dyddio o'r 9g ac yn cynnwys naw gwahanol lefel, y chwech isaf yn sgwar a'r tri uchaf yn grwn. Mae 2,672 o baneli cerfluniau a 504 cerflun o'r Bwda. Ar ran uchaf y deml mae 72 stwpa, pob un yn cynnwys cerflun o'r Bwdha, yn amgylchynu stwpa mawr canolog, sy'n wag. Saif rhyw 40 km i'r gogledd-orllewin o Yogyakarta yng nghanolbarth yr ynys. Gall pererinion ddilyn taith o waelod y deml i'r rhan uchaf, gan basio trwy y tair lefel yn y gosmoleg Fwdaidd, sef Kamadhatu (byd y chwantau), Rupadhatu (byd y ffurfiau) ac Arupadhatu (byd y di-ffurf). Nid oes cofnod ysgrifenedig o bwy a adeiladodd Borobudur na pha bryd, ond ystyrir i'r gwaith ddechrau tua 800 a'i orffen rhyw 75 mlynedd wedyn. Credir na ddefnyddiwyd Borobudur wedi i Fwdiaeth ddirywio ar ynys Jafa yn y 14g a throedigaeth y mwyafrif o'r boblogaeth i Islam. Mae llawer o waith wedi ei wneud i drwsio a diogelu'r deml yn y blynyddoedd diwethaf, a Borobudur yw'r gyrchfan fwyaf poblogaidd i dwristiaid yn Indonesia. |
Portal di Ensiklopedia Dunia