Blaen-gwrach
Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Blaen-gwrach,[1] hefyd Blaengwrach.[2] Saif ar lan ddwyreiniol afon Nedd, i'r gogledd-ddwyrain o Resolfen. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,148. Mae'r ardal yn un fryniog, yn cynnwys Mynydd Resolfen (383 medr), Mynydd Pen-y-Cae (573 m) a Chraig-y-Llyn (600 m). Mae dwy ran i'r pentref, Blaen-gwrach a Cwm-gwrach, ond yn aml defnyddir Cwm-gwrach am y pentref a Blaen-gwrach ar gyfer yr ardal ehangach. Ceir olion o gangen o Gamlas Nedd yma, ac roedd gwaith haearn Penallt ar agor rhwng 1839 ac 1854. Roedd capel Anghydffurfiol cynnar yma, a sefydlwyd yn 1662; troes yn achos Undodaidd yn 1772 a chaeodd yn 1878. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Carolyn Harris (Llafur).[4] Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8] Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia