Blade Runner
![]() Ffilm ffuglen wyddonol Americanaidd o 1982 a gyfarwyddwyd gan Ridley Scott yw Blade Runner. Harrison Ford sy'n serennu yn y ffilm ochr yn ochr â Rutger Hauer. Seiliwyd y sgript gan Hampton Fancher a David Peoples ar y nofel Do Androids Dream of Electric Sheep gan Philip K. Dick. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth i'r ffilm gan Vangelis a gyhoeddwyd yn 1968. Lleolwyd stori'r ffilm mewn Los Angeles dystopaidd yn y flwyddyn 2019, lle mae bodau wedi eu creu drwy beirianneg genetig a elwir replicants, caethweision sy'n edrych yr un ffunud â bodau dynol go iawn, yn cael eu cynhyrchu gan gorfforaeth rymus y teulu Tyrell. Yn sgil gwrthryfel treisgar gan y replicantod, gwaharddwyd eu defnydd ar y Ddaear, a chyfyngir eu defnydd i wladychfeydd yn y gofod ac o gwmpas Cysawd yr Haul. Caiff replicantod sy'n dod i'r Ddaear eu hel a'u lladd gan adran arbennig o'r heddlu, lleiddiaid-ditectwyr a elwir blade runners. Mae'r stori yn canolbwyntio ar un grŵp o replicantod peryglus sydd newydd ddianc i Los Angeles, a blade runner wedi hanner ymddeol o'r enw Rick Deckard, sy'n cael y dasg o'u hela nhw. |
Portal di Ensiklopedia Dunia