Bhubaneswar
Prifddinas talaith Odisha yn India a'i dinas fwyaf yw Bhubaneswar neu Bhubaneshwar. Fe'i lleolir yn nwyrain India ar wastadiroedd arfordirol dwyrain Odisha i'r de-orllewin o Afon Mahanadi. Poblogaeth: 647,302 (2001). Yn gyn brifddinas teyrnas Kalinga, mae gan y ddinas hanes hir fel un o ganolfan crefyddol a diwylliannol pwysicaf Hindŵaeth ac heddiw mae'n ganolfan economaidd ranbarthol hefyd. Yng nghwrs ei hanes, mae Bhubaneswar wedi cael ei adnabod wrth sawl enw, e.e. Toshali, Kalinga Nagari, Nagar Kalinga, Ekamra Kanan, Ekamra Khetra a Mandira Malinya Nagari. Cynlluniwyd y ddinas fodern gan y pensaer Almaenig Otto Königsberger yn 1946. Daeth yn brifddinas talaith Orissa (Odisha ers 2011) yn 1948, blwyddyn ar ôl i India ennill ei hannibyniaeth oddi ar Brydain. Cyn hynny, Cuttack a fu'n brifddinas Orissa hyd 1947. Gelwir Bhubaneswar a Cuttack "dinasoedd gefaill" Odisha. Ceir nifer fawr o demlau Hindwaidd yn Bhubaneswar ac felly fe'i gelwir weithiau yn 'Ddinas Temlau' India. Mae rhai o'r temlau hyn yn hynafol ac yn cynrychioli'r cyfan o bensaernïaeth Kalinga. Y pwysicaf o'r rhain yw Teml Lingaraj, sy'n dyddio o'r 10g ac a gysegrir i Shiva. Mae temlau mawr eraill yn cynnyws temlau Lakshmanesvara, Parasuramesvara, Svarnajalesvra, Muktesvara, Rajarani, Vaital, Brhamesvara, Meghesvara, Vaskaresvara, Ananta Vasudeva, Sari, Kapilesvara, Markandesvara, Yamesvara, Chitrakarini a Sisiresvara. Gwasanaethir y ddinas gan Faes Awyr Biju Patnaik gyda ffleits dyddiol i Delhi Newydd, Mumbai, Kolkata (Calcutta), Hyderabad, Chennai a Bangalore. Mae'n ganolfan rheilffordd fawr hefyd gyda gorsaf ar Reilffordd Arfordir Dwyrain India. Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia