Bessie Braddock
Gwleidydd Llafur o Saesnes oedd Elizabeth Margaret Braddock YH (24 Medi 1899 – 13 Tachwedd 1970), a adnabyddir yn well fel Bessie Braddock. Yn enedigol o Lerpwl, ymaelododd â'r Blaid Lafur yn 1925 ar ôl cyfnod byr fel aelod o'r Blaid Gomiwnyddol. Daeth yn ffigwr amlwg yng ngwleidyddiaeth leol Lerpwl a gwasanaethodd fel arweinydd Cyngor Dinas Lerpwl o 1955 hyd 1961 ac eto ym Mai 1963. Cafodd ei hethol yn AS dros Gyfnewidfa Lerpwl (Liverpool Exchange) yn etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1945, a daliodd y swydd am 24 mlynedd. Roedd hi'n sosialydd brwd a adnabyddid fel "Battling Bessie". Rhoddwyd 'Rhyddid Dinas Lerpwl' i Braddock gan gyngor y ddinas yn 1970, ychydig cyn ei marwolaeth. Cofir Braddock yng Nghymru hyd heddiw fel un o brif arweinwyr y cynllun gan Gorfforaeth Lerpwl i foddi Cwm Tryweryn yng ngogledd Cymru, a hynny yn wyneb gwrthwynebiad bron pob AS Cymreig. Wrth sôn am y cynllun arfaethedig i foddi Capel Celyn dwedodd Braddock yn Nhŷ'r Cyffredin yn 1957:
Fe'i cofir hefyd fel gwrthrych un o ripostes enwocaf Winston Churchill:
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia