Berta Ruck
Nofelydd o Gymru oedd Amy Roberta Ruck (2 Awst 1878 – 11 Awst 1978).[1][2] CefndirGanwyd Berta Ruck yn Murree, Punjab, India yn blentyn i Arthur Ashley Ruck, swyddog ym myddin India'r Ymerodraeth Brydeinig ac Elizabeth Eleanor (née D'Arcy) ei wraig. Roedd ei theulu o dras Gymreig. Roedd ei nain ar ochr ei thad, Mary Ann Ruck (née Matthews), yn etifedd ystâd Esgair a Phantlludw, Aberdyfi. Roedd ei mam yn hanu o Lanbrynmair ac yn ddisgynnydd i Dafydd Llwyd o Fathafarn ac i John Jones, Maesygarnedd.[1] Yn ddyflwydd oed danfonwyd Ruck yn ôl i Gymru i fyw gyda'i nain yn Aberdyfi lle fu'n byw hyd 1886 pan ddychwelodd ei theulu adref i Gymru wedi i'w thad gael ei benodi yn Brif Gwnstabl Heddlu Sir Gaernarfon.[3]. Bu'r teulu wedyn yn byw yn Llwyn-y-Brain, Llanrug. Cafodd ei addysgu mewn ysgol breswyl yn yr Almaen ac yn Ysgol St Winifred Bangor. Mynychodd ysgol gelf yn Llundain cyn derbyn ysgoloriaeth i Ysgol Celfyddyd Gain Slade (sydd bellach yn rhan o Goleg Prifysgol Llundain). O Lundain aeth i astudio yn yr Académie Colarossi, coleg celf ym Mharis. Ym 1909 priododd y nofelydd Seisnig Oliver Onions; a newidiodd ei enw ym 1918 i George Oliver. Bu iddynt dau fab.[4] GyrfaDechreuodd Ruck ei yrfa trwy ddarparu darluniadau i gylchgronau merched ei dydd, yn aml i ddarlunio storïau a oedd yn ymddangos yn y cylchgronau. O 1905 dechreuodd ysgrifennu ei storïau ei hun gan weld storïau byr a storïau gyfres mewn cylchgronau megis Home Chat a The Idler. Cyhoeddwyd y gyntaf o'i 90 nofel lawn ar ffurf llyfr, His Official Fiancée, ym 1914.[5]. Roedd yn nofel rhamant gyda'r Rhyfel Byd Cyntaf yn gefndir, a phrofodd yn llwyddiant ysgubol. Defnyddiwyd y nofel yn sail i ddwy ffilm: His Official Fiancée (1919), ffilm fud a gyfarwyddwyd gan Robert G. Vignola a Hans officiella fästmö (1944), ffilm Swedeg a gyfarwyddwyd gan Nils Jerring [6]. Cyhoeddodd tair nofel arall ar yr un thema, The Lad with Wings (1915), Khaki and Kisses (1915) a The Girls at his Billet (1916). Cyhoeddwyd y pedwar llyfr o dan ei enw priodasol Mrs Oliver Onions. Ym 1916 cyhoeddwyd Miss Million's Maid y cyntaf o'i nofelau o dan yr enw Berta Ruck. Thema y rhan fwyaf o'i nofelau oedd stori cariad am ferch mewn byd lle'r oedd rôl y ferch yn newid yn y byd cyfoes. Roedd y rhan fwyaf o'i nofelau, hefyd, yn cynnwys prif gymeriad oedd yn Gymraes, gan amlaf yn Gymraes Cymraeg ei hiaith. Yn ogystal â'i nofelau, ysgrifennodd hanes teulu ei mam, Ancestral Voices (1972), a phedair gwaith hunangofiant: A Storyteller tells the Truth (1935), A Smile for the Past (1959),[7] Trickle of Welsh Blood (1967) ac An Asset to Wales (1970). MarwolaethBu farw yn ei chartref, Bryn Tegwel, Aberdyfi ychydig wedi ei phenblwydd yn 100 mlwydd oed. Llyfryddiaeth (anghyflawn)Nofelau
Storïau byr
Bywgraffiadol
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia