Beowulf
Arwrgerdd Hen Saesneg (iaith yr Eingl-Sacsoniaid) yw Beowulf, sy'n 3182 llinell gyflythrennol o ran hyd. Caiff y gerdd ei chyfrif fel y gerdd bwysicaf yn llenyddiaeth Hen Saesneg. Hanes testunolCedwir testun Beowulf mewn llawysgrif sy'n dyddio o tua dechrau'r 11g, ond credir gan mwyafrif o feirniadau i'r gerdd gyrraedd ei ffurf bresennol rhywbryd cyn hynny. Dichon fod hyn yn ddiwedd proses o drosglwyddo ar lafar ond ni ellir gwybod hyn i sicrwydd. Fe'i hystyrir yn un o'r cerddi Hen Saesneg pwysicaf. Cyfansoddwyd y gerdd gan feirdd anhysbys yn Nwyrain Anglia, Lloegr o bosibl, gan gyrraedd ei ffurf bresennol rywbryd rhwng y 7fed a'r 10g OC, ond fe'i lleolir yng nghymdeithas arwrol Llychlyn fel yr oedd hi cyn i'r Eingl-Saeson groesi'r môr. Y gred gyffredinol yw fod rhai o'r cymeriadau sydd yn y gerdd (e.e. y Brenin Hroðgar a'r Scyldings) yn bobl go-iawn, o gig a gwaed a oedd yn trigo yn y gwledydd Sgandinafaidd yn y 6g.[1] DisgrifiadMae'n dechrau trwy ddisgrifio cynhebrwng Scyld Scefing, un o arwyr mawr y Daniaid, cyn fynd ymlaen adrodd hanes yr arwr Beowulf yn ymladd yr anghenfil Grendel gan ei ladd. Mae mam Grendel wedyn yn ymosod arno ac mae Beowulf yn ei lladd hithau. Aiff adre'n arwrol ac yn fuddugoliaethus i Geatland yn Sweden. Ar ôl hanner can mlynedd, mae'n ymladd draig ac yn ei lladd ond caiff ei glwyfo'n angheuol wrth wneud hynny a chaiff ei gladdu gan ei gyfeillion yng ngolwg y môr. Er mai Beowulf yw prif cymeriad y gerdd, mae hi hefyd yn cynnwys nifer o ffigyrau a straeon eraill. Mae llawer o gymeriadau a llwythi sydd yn y gerdd hefyd i'w canfod mewn llenyddiaeth Sgandinafaidd e.e. Healfdene, Hroðgar, Halga, Hroðulf, Eadgils ac Ohthere), y llwythi Scyldings, Scylfings a'r Wulfings a rhai digwyddiadau megis y Frwydr ar Rew Llyn Vänern.[2] LlyfryddiaethCafwyd nifer o argraffiadau o'r testun gwreiddiol dros y blynyddoedd a sawl cyfieithiad i Saesneg Diweddar a rhai ieithoedd eraill. Ceir cyfieithiad mydryddol Saesneg hwylus yn y gyfres Penguin Classics:
Golygiad safonol o'r testun yw:
FfilmCafodd ei gwneud yn ffilm yn 2007, gyda brodorion ynys Prydain (y Brythoniaid) yn siarad Saesneg gydag acen Gymraeg. Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia