Benjamin Thomas Williams
Roedd Benjamin Thomas Williams (19 Tachwedd 1832 – 21 Mawrth 1890) yn fargyfreithiwr, yn farnwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin o 1878 i 1882[1] Bywyd PersonolGanwyd B T Williams yn Arberth yn fab hynaf i'r Parch Thomas R Williams, gweinidog Annibynnol, a Mira (née Thomas) ei wraig. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg y Presbyteriaid, Caerfyrddin, gyda'r bwriad o ddilyn ei Dad i weinidogaeth yr Annibynwyr. Tra yn y Coleg cafodd dröedigaeth i achos yr Undodiaid a rhoddodd ymaith ei fwriad i ddyfod yn weinidog. Wedi ennill ysgoloriaeth Dr Williams aeth i Brifysgol Glasgow, lle enillodd gwobrau'r coleg am resymeg a metaffiseg, a graddio'n MA ym 1854.[2] Ym 1857 priododd Margaret unig ferch B R Thomas Arberth, bu iddynt dau fab a merch.[3] GyrfaGalwyd Williams i'r Bar yn Grey's Inn ym 1859 a bu'n gweithio fel bargyfreithiwr ar Gylchdaith De Cymru. Roedd yn eistedd fel cofiadur Sir Gaerfyrddin o 1872 i 1878 a chafodd ei godi yn Gwnsler y Frenhines ym 1875. Roedd yn awdur nifer o erthyglau ar wahanol agweddau o'r gyfraith a fu'n olygydd y Law Magazine a'r Commercial Compendium. Cafodd ei benodi yn Farnwr Llys y Goron Sir Forgannwg ym 1882[4] ond bu'n rhaid iddo ymddeol cyn pen tair blynedd oherwydd problemau iechyd meddwl.[5] Ar adeg ei ymddiswyddiad B T Williams oedd yr unig Barnwr Llys y Goron yng Nghymru a oedd yn gallu'r Gymraeg; gwnaed cais i'r Iarll Selbourn, yr Arglwydd Ganghellor, i sicrhau bod Cymro Cymraeg arall yn cael ei benodi yn ei le a bod ystyriaeth yn cael ei roi i sicrhau bod llefydd gwag eraill yn cael eu cynnig i siaradwyr yr iaith. Chwerthin am ffolineb y syniad bod Siarad Cymraeg yn gymhwyster cyfreithiol bu ymateb yr Arglwydd Ganghellor.[6] Bu hefyd yn gwasanaethu fel Ynad Heddwch ar feinciau Sir Benfro, Sir Frycheiniog a Sir Forgannwg. Prifysgol CymruFel anghydffurfiwr nid oedd gan Williams yr hawl i astudio mewn prifysgolion yn Lloegr, yr oedd yn teimlo bod hyn yn anghyfiawn, roedd hefyd yn teimlo ei fod yn anghyfiawn bod myfyrwyr Cymreig o unrhyw enwad yn gorfod mynych brifysgol y tu allan i Gymru; ym 1853 fe'i ysgrifennodd traethawd yn amlinellu'r angen am brifysgol anenwadol yng Nghymru. O ganlyniad i draethawd B T Williams, gynhaliwyd pwyllgor yn Llundain a chyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru a arweiniodd, yn y pendraw, at sefydlu Prifysgol Aberystwyth ym 1872.[7] Gwasanaethodd fel aelod o Gyngor Prifysgol Glasgow, is lywydd ac ysgrifennydd Prifysgol Aberystwyth ac fel un o lywodraethwr Prifysgol Bangor[8] Gyrfa WleidyddolYm 1867 fe ymgeisiodd Thomas am gefnogaeth y Rhyddfrydwyr i fod yn ymgeisydd am ail sedd Merthyr Tudful ond bu'n aflwyddiannus.[9] Ym 1878 ymddiswyddodd AS Ryddfrydol Bwrdeistref Caerfyrddin, Syr John Cowell-Stepney o'r Senedd a chafodd B T Williams ei ddewis yn unfrydol i'w olynu, yr anghydffurfiwr cyntaf i gynrychioli'r sedd[10]. Cafodd ei ail ethol yn etholiad cyffredinol 1880 ond ymddiswyddodd o'r Senedd ym 1882 ar ôl gael ei benodi yn Farnwr Llys y Goron.[11] MarwolaethO dan bwysau salwch meddwl cyflawnodd weithred o hunnan laddiad yn Seilam y Siroedd Unedig, Caerfyrddin, yn 57 mlwydd oed. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia